Jump to content

Cartref!

Cartref! oedd ein ymgyrch cyn etholiadau 2021 i Senedd Cymru; fe wnaethom ddatblygu’r syniadau am newid ar y cyd drwy gannoedd o sgyrsiau gyda chymdeithasau tai a phartneriaid ar draws y r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol.

Am beth mae ein hymgyrch Cartref!?

Cartref! oedd ein hymgyrch cyn etholiadau 2021 i Senedd Cymru.

Fe wnaethom ddatblygu’r syniadau am newid ar y cyd drwy gannoedd o sgyrsiau gyda chymdeithasau tai a phartneriaid ar draws y rector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol.

Roedd gennym rywbeth syml i ofyn amdano a’i gynnig i aelodau’r Senedd: Rhoi ‘cartref’ wrth ganol eich cynlluniau i gefnogi pobl Cymru i fyw bywydau iach, llewyrchus a chysylltiedig. Mae cymdeithasau tai yn barod i fuddsoddi, cydweithio a darparu gyda chi.

Rydym eisiau i Lywodraeth Cymru:

  • dargedu buddsoddiad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
  • ei gwneud yn haws i gymryd camau ar y cyd ar gyfer heriau ar y cyd
  • creu lleoedd mae pobl eisiau byw ynddynt

Fe wnaethom hefyd gynnig mawr i’r llywodraeth:

CHC's ideas for change

Ble gallaf gael mwy o wybodaeth?

Lawrlwythwch ein maniffesto yma.

Ewch i www.hereforhomes.org.uk i ganfod mwy am yr hyn y gofynnodd yr ymgyrch amdano a’n cynnig i Lywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad. Gallwch hefyd gael mynediad i’n deunyddiau ymgyrch, fideos ac astudiaethau achos yma.

Sut y gallaf gymryd rhan?

Fe wnaeth yr ymgyrch ganolbwyntio ar y cyfnod cyn yr etholiad ac mae’n awr wedi dod i ben, ond gallwch ddal i gymryd rhan yn y ffyrdd dilynol:

Cymdeithasau tai:

  • rhannu enghreifftiau o’ch gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • ymgysylltu’n gadarnhaol gydag Aelodau o’r Senedd.

Dylai’r adnoddau ar dudalen ymgyrch Cartref eich helpu gyda hyn.

Partneriaid:

  • siaradwch gyda ni am sut y gallwn gydweithio ar faterion tebyg i ostwng anghydraddoldeb iechyd, cefnogi adferiad economaidd cynaliadwy a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.