Jump to content

09 Ebrill 2020

Ysbryd cymunedol yn amlwg er gwaethaf y pandemig

Ysbryd cymunedol yn amlwg er gwaethaf y pandemig
Gyda Covid-19 yn parhau i ddod â heriau yn ei sgil i bobl ledled Cymru mae Tomas Jackson, Hyfforddydd Tai Cymdogaeth Tai Hafod, yn trafod sut mae’r gymuned yn dod ynghyd a’r hyn y mae ef a’i gydweithwyr yn Tai Hafod yn ei wneud i gefnogi tenantiaid.


“Mae bod yn hyfforddydd cymdogaeth bob amser yn her a gwerth chweil ond yn ystod pandemig COVID-19 mae wedi hybu dwy elfen y rôl. Mae’n werth chweil iawn bod yn rhan o’r rheng flaen yn cefnogi llawer o breswylwyr mewn gwahanol sefyllfaoedd y mae’r feirws dychrynllyd hwn wedi ac yn effeithio arnynt.


Gan nad yw’n bosibl bellach i ymweld â chartrefi oherwydd cyngor ar ymbellhau cymdeithasol, rwyf wedi addasu’r ffordd rwy’n gweithio. Bûm yn siarad gyda phreswylwyr ar y ffôn i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i dderbyn y gefnogaeth a’r gwasanaeth maent yn ei haeddu. Ers cyflwyno’r cyfyngiadau ar symud, buom yn gwneud nifer o dasgau ar ben ein gwaith beunyddiol, gan sicrhau ein bod yn parhau mewn cysylltiad gyda’n preswylwyr.


Ynghyd â fy nghydweithwyr, rwyf wedi bod yn galw preswylwyr y dynodwyd eu bod yn fregus a sicrhau fod ganddynt y rhwydwaith cymorth o’u hamgylch yn y cyfnod anodd hwn. Mae hyn wedi galluogi ein tîm tai neu incwm i gysylltu gyda’r gymuned a rhoi cefnogaeth i’r rhai sydd fwyaf ei angen yn ystod yr amgylchedd hwn sy’n newid drwy’r amser. Rwyf hefyd wedi bod allan yn dosbarthu parseli bwyd hanfodol i denantiaid heb berthnasau neu ffrindiau i alw arnynt ac na all gael mynediad i fanciau bwyd a chymorth arall yn eu hardal.


Tra’r cysylltu’r rhai yn ein grŵp ‘henoed sy’n byw ar ben eu hunain’, gallais gysylltu gydag ystod eang o breswylwyr nad oeddwn wedi cwrdd â nhw neu wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn flaenorol. Mae un fenyw neilltuol rwyf wedi ffurfio perthynas gref â hi yn unig iawn ac yn byw ar ben ei hun gan fod ei theulu’n byw bant. Rwyf wedi bod yn ei ffonio bob wythnos i weld os yw angen unrhyw gymorth, help gyda siopa neu ddim ond sgwrs gyffredinol. Rydyn ni’n awr yn cael sgwrs wythnosol, ac rwy’n ei mwynhau gymaint â hi!


Bu mor wych cysylltu gyda’n preswylwyr a chlywed y straeon y mae’r holl wahanol gymunedau yn yr ardal yn eu rhannu, gan dynnu ynghyd fel un i gefnogi ein gilydd yn ystod y cyfnod anodd yma. Clywais am ardaloedd ledled de Cymru lle cafodd preswylwyr nodyn drwy’r drws, gan gymdogion yn eu stryd nad ydynt erioed wedi siarad gyda nhw o’r blaen yn cynnig cefnogaeth tebyg i fynd i siopa neu i’r fferyllfa, neu berson cyfeillgar i’w ffonio os ydynt angen cael sgwrs oherwydd unigrwydd.


Bu’n wych gysylltu â chynifer o breswylwyr a chynnig cymorth os oeddent ei angen. Fel y gallwch ddychmygu, mae gan lawer o breswylwyr rwydweithiau cymorth presennol ac felly ddim ei angen tra bod eraill angen hynny. Y consensws a deimlais o’r ymarferion y gwnaethom eu cynnal ac yr ydym yn dal i’w cynnal yw un o ddiolch a gwerthfawrogiad gan fod preswylwyr yn ddiolchgar bod rhywun yn meddwl amdanynt yn y cyfnod anodd yma.


I mi mae’n bwysig ein bod yn meithrin perthynas ac yn cysylltu gyda’n preswylwyr ac yn dangos ein bod gyda nhw ar y daith yma, a byddwn yn parhau i wneud ein gorau i gefnogi a gwneud bywydau yn well.


Rydym yn parhau i weithio’n galed iawn ym mhob ardal ac yn anelu cysylltu â mwy o breswylwyr gan gynnig cymaint o gefnogaeth ag sydd modd gan gysylltu gyda’r holl rwydweithiau cefnogaeth gymunedol, wrth i ni gyda’n gilydd ymdrechu i wneud bywydau’n well a chefnogi ein preswylwyr drwy’r cyfnod anodd yma.”


Bydd cymdeithasau tai yng Nghymru yn rhoi sylw i’w gwaith i gefnogi tenantiaid yng Nghymru drwy ymgyrch newydd ‘Gyda Chi’. Dilynwch yr ymgyrch hon drwy dudalen Twitter CHC @CHCymru a chwilio am hashnod #gydachi