Jump to content

27 Ionawr 2020

Trechu tlodi tanwydd yng Nghymru

Trechu tlodi tanwydd yng Nghymru
Mae 12 y cant o aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae hynny'n 155,000 o aelwydydd sy'n methu cadw'n gynnes yn ystod y gaeaf, ac sy'n aml yn byw mewn dyled i'w cyflenwr ynni. Mae llawer o deuluoedd sy'n byw mewn tlodi tanwydd yn mynd i'r gwely'n gynnar i gadw'n gynnes, yn defnyddio canhwyllau i gael golau ac yn mynd heb fwyd er mwyn medru fforddio awr o wres yn ystod gaeafau oer. Gwyddom fod dros 58,000 o bobl yng Nghymru mewn dyled i'w cyflenwyr nwy a thrydan, a bydd llawer mwy yn datgysylltu eu hunain o'u mesurydd blaendalu.


Gosododd Llywodraeth Cymru dargedau i ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2018. Yn sgil y methiant i gyrraedd y targed hwn mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i dlodi tanwydd.


Yn y sector tai cymdeithasol, mae 9 y cant o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd o gymharu â 11 y cant yn y sector perchen-breswylydd a 20 y cant yn y sector rhent preifat. Mae cymdeithasau tai wedi gweithio'n galed dros y degawd diwethaf i gefnogi eu tenantiaid mwyaf bregus gyda phrisiau ynni uchel, tai ansawdd gwael ac incwm isel.


Mae dros 750 o gartrefi sydd wedi cysylltu â chynllun gwresogi ardal Cartrefi Dinas Casnewydd yn ardal Dyffryn wedi haneru eu defnydd ynni drwy symud i fesuryddion talu-wrth-fynd ynni deallus G6 Switch2Energy. Mae preswylwyr yn awr yn medru rheoli eu defnydd a'r costau, sy'n eu galluogi i drefnu eu harian ac arbed arian.


Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae gwasanaeth cyngor arian Trivallis wedi arbed dros £210,000 i'w gwsmeriaid drwy roi cyngor ar ynni a chynorthwyo cwsmeriaid i newid cyflenwr ynni a chael mynediad i wahanol hawliau a gostyngiadau i dorri eu costau ynni. Mae gan holl aelodau'r tîm cyngor arian ddyfarniad Lefel 3 National Energy Action (NEA) mewn ymwybyddiaeth ynni a chyngor ar ddyledion tanwydd.


Mae prosiect Wardeiniaid Ynni Grŵp Cynefin yn targedu cartrefi yn y Gogledd lle mae tlodi tanwydd yn gyffredin. Cyflwynwyd cyfanswm o 102 cais am ostyngiad cartref cynnes, gan olygu cyfanswm arbediad o £14,280.


Ynghyd â chyngor ar gynyddu incwm, hawlio budd-daliadau ac ymwybyddiaeth o ynni, mae angen cartrefi effeithiol o ran ynni i sicrhau y gall tenantiaid fyw mewn cartrefi cynnes, sych a diogel. Mae Safon Ansawdd Tai Cymru yn sicr wedi gwella ansawdd tai. Mae 99 y cant o dai cymdeithasol yn cydymffurfio gyda'r safon sy'n cynnwys graddiad ynni o SAP 65 neu uwch.


Aiff llawer o gymdeithasau tai ymhellach i adeiladu cartrefi a chymunedau lle caiff tenantiaethau fforddiadwy eu creu, gyda biliau ynni is a datblygu ymdeimlad cryf o falchder yn y gymuned. Yn ogystal â threchu tlodi tanwydd, mae'r datblygiadau hyn yn creu swyddi gwyrdd mewn ardaloedd lleol ac yn defnyddio cadwyni cyflenwi lleol i ganfod adnoddau.


Mewn partneriaeth gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a SPECIFIC, mae Grŵp Pobl yn adeiladu 'cartrefi egnïol' sy'n cynhyrchu'r rhan fwyaf o'u hanghenion ynni eu hunain o'r toeau a gorchuddion waliau allanol. Mae biliau yn sylweddol is ar gyfer tenantiaid, a felly hefyd dlodi tanwydd ac allyriadau carbon.


Dechreuodd Cartrefi Conwy weithio yn 2019 i gynhyrchu cartrefi ynni isel gyda Beattie Passive. Amcangyfrifir fod y cartrefi hyn yn arbed hyd at 90% mewn costau ynni blynyddol i'r preswylwyr.


Gyda datganiad Llywodraeth Cymru y bydd yn cyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050 er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd, mae Adroddiad Byd Gwell, Cymru Well, Cartrefi Gwell wedi argymell fod yn rhaid i bob cartref yn y sector cymdeithasol gyrraedd EPC Band A erbyn 2030. Mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i'r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd yn y broses hon ac mae'n rhaid rhoi'r cyngor a'r gefnogaeth sydd eu hangen i fedru defnyddio technolegau adnewyddadwy yn y ffordd fwyaf effeithlon.


Dim ond ciplun yw hyn o beth o'r gwaith mae cymdeithasau tai yn ei wneud i fynd i'r afael â malltod tlodi tanwydd. Mae rôl i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gydweithio i sicrhau nad yw prisiau ynni yn parhau i gynyddu i lefelau anfforddiadwy, fod y system budd-daliadau yn ddigon ar gyfer cost byw, ac y caiff y rhai mewn gwaith eu diogelu gyda hawliau isafswm oriau a chyflogaeth.


Hoffai Cartrefi Cymunedol Cymru weld cynllun newydd Llywodraeth Cymru yn cynnwys targedau uchelgeisiol i ddileu tlodi tanwydd o Gymru, a gefnogir gyda buddsoddiad a chyllid digonol. Mae'r Rhaglen Cartrefi Cynnes yn gwneud gwaith gwych wrth wella effeithiolrwydd ynni cartrefi'r rhai sydd mewn angen, fodd bynnag mae angen iddi fynd ymhellach i ôl-osod cartrefi tlawd i EPC a rhoi cyngor trwyadl, wyneb i wyneb ar ddyledion ac ynni.