Jump to content

24 Chwefror 2020

Sut i ddatrys 'problem' fel cysgu ar y stryd

Sut i ddatrys 'problem' fel cysgu ar y stryd
Cyhoeddwyd yn gyntaf ar tudalen Click on Wales gan Sefydliad Materion Cymreig.


Mae rhai ystadegau difrifol yn dangos fod digartrefedd ar draws y Deyrnas Unedig wedi codi gan 165% yn y naw mlynedd ddiwethaf; cynyddodd cysgu ar y stryd gan 45% rhwng 2015 a 2019, mae rhywun yn marw'n ddigartref yn y Deyrnas Unedig bob 19 awr.


Yn y Wallich, rydym yn mynd i'r afael o ddifri â'r problemau hyn, 365 diwrnod y flwyddyn, nid dim ond ym misoedd oerach y gaeaf; ond mae'n anodd, a dydyn ni ddim yn ennill y frwydr. Mae ein Timau Ymyriad Cysgu ar y Stryd allan ym mhob rhan o Gymru bob bore yn mynd â bwyd poeth, cyngor, cefnogaeth ac yn bwysicaf oll, wybodaeth ac arbenigedd ar drawma, i bobl a gysgodd ar y stryd y noswaith flaenorol. Bu cynnydd enfawr yn nifer y bobl yr ydym yn eu gweld a hefyd yn y llu o broblemau iechyd meddwl a chorfforol mae pobl yn eu hwynebu. Mae ein staff yn cwrdd â phobl gyda straeon ofnadwy o gael eu cam-drin, o gael ymosod arnynt, eu hecsbloetio a'u siomi. Mae'r anobaith yn amlwg.


Beth fedrir ei wneud i ddatrys problem cysgu ar y stryd y gaeaf hwn ac i'r flwyddyn newydd, a beth all pawb ohonom ei wneud i helpu datrys yr argyfwng cenedlaethol yma?


Beth fedrwn ni wneud ar lefel genedlaethol a llywodraeth?


Y newyddion da yw fod llawer o ewyllys gwleidyddol trawsbleidiol i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru. Mae gennym Weinidog ymroddedig a blaengar ac mae wedi penodi nifer o arbenigwyr i ffurfio'r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd. Her gyntaf y grŵp oedd sut i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd yn y tymor byr a chafodd eu hargymhellion gefnogaeth eang.


Mae cysgu ar y stryd bron bob amser yn symptom o set fwy o heriau mae rhywun yn eu hwynebu. Anaml mae'n ddim ond problem tai ac anaml y caiff ei datrys gan loches yn unig. Mae angen alinio portffolios Iechyd, Tai a Chyfiawnder Troseddol er mwyn mynd i'r afael ag ef yn effeithlon. Mae angen i'r tirlun comisiynu newid. Mae'r strwythurau cyllid cyfredol yn golygu fod gwasanaethau'n mynd a dod neu'n canolbwyntio ar broblem benodol ac nid yw pobl yn ffitio i gategorïau felly. Mae'r bobl a gefnogwn angen cysondeb, dewis a rheolaeth.


Rydym angen dull gweithredu 'dim drws anghywir' gyda mynediad cyfartal a nifer o lwybrau mewn i gael help. Mae angen i ni gael gwared â rhwystrau cyfreithiol a mympwyol sy'n atal pobl rhag cael yr help maent ei angen.


Mae angen mwy o lety argyfwng i ateb y galw yn ogystal â'r cyllid angenrheidiol i sicrhau fod llety presennol o safon uchel a'i fod yn cynnig urddas a gofod addas i bobl gael adferiad ynddo.


Beth fedrwn ni ei wneud ar lefel leol a lefel y llywodraeth?


Mae canfyddiad y cyhoedd o gysgu ar y stryd wedi newid a rydym yn gweld mwy a mwy o ddirmyg, rhwystredigaeth a dicter gan bobl sydd wedi cael llond bol nid yn unig ar y nifer gynyddol, ond weithiau ganlyniadau anffafriol cysgu ar y stryd. Mae angen i ni symud y rhwystredigaeth yma tuag at garedigrwydd a thrugaredd, bob amser, a sicrhau y caiff pobl eu haddysgu am beth i'w wneud i helpu.


Mae angen i'n cymunedau gefnogi ffyrdd arloesol o helpu pobl. Mae gweithrediadau symudol y Wallich, ein Fflyd Stryd a Cherbyd Llesiant yn golygu y gallwn fynd at bobl sy'n cysgu yn y stryd a helpu ar eu telerau nhw, ble a phryd maent ei angen. Rydym angen y gofodau a'r ymrwymiad gan gymunedau i wneud i hyn ddigwydd.


Mae angen i fusnesau wneud ymrwymiad i helpu dod â digartrefedd a chysgu ar y stryd i ben. Mae hynny'n golygu dod ynghyd i ddatrys y broblem sylfaenol, edrych ar bolisïau caffael sy'n ymwneud â mentrau cymdeithasol, defnyddio eu dylanwad i ddod yn hyrwyddwr dros yr achos, datblygu cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl gyda phrofiadau bywyd ac addysg ar gyfer staff.


Beth fedrwn ni wneud ar lefel unigol?


Pan fyddant yn dod ar draws rhywun sy'n cysgu ar y stryd, byddem yn gofyn i bobl ddatgan rhyw fath o garedigrwydd a chydymdeimlad. Cael sgwrs, gwneud cysylltiad dynol. Mae 1 mewn 4 o bobl sy'n cysgu ar y stryd yn treulio bob dydd ar eu pen eu hunain.


Os rhowch arian, rhowch ef yn ddiamod a heb gyfyngiad. Ceisiwch beidio dyfalu beth y medrai rhywun ei wario arno neu os ydynt yn ei wario ar y pethau 'iawn'. Jyst rhowch.


Os hoffech gyfrannu eitemau, gofynnwch i bobl beth maent angen, siaradwch gyda nhw. Efallai fod rhywun wedi cael 20 brechdan y diwrnod hynny, pan mae'r hyn maent wir ei angen yw eli gwrthseptig neu dennyn ci.


Addysgwch eich hun am wasanaethau. Chwiliwch yn gyflym ar y rhyngrwyd i weld ble mae'r hostelau lleol yn eich ardal, eu horiau agor a'u cyfeiriad. Rhowch gyngor i rywun sy'n cysgu ar y stryd a allai arwain at iddynt gael rhywle i aros, ac i symud ymaith o'r strydoedd unwaith ac am byth.


Defnyddiwch StreetLink. Lawrlwythwch yr ap am ddim a chysylltu pobl sy'n cysgu ar y stryd gyda'r gwasanaethau a all eu helpu drwy rym technoleg. Mae bod i'w gweld yn bwysig ar gyfer gwneud siŵr fod pobl yn cael cefnogaeth cyn gynted ag sydd modd; rhowch leoliad y person a bydd gweithiwr proffesiynol yn ymestyn allan iddynt.


Ni allwn ddod â chysgu ar y stryd i ben os nad ydym yn ymateb fel cymuned i ddigartrefedd. Rydym angen Cymru lle mae pobl yn sefyll gyda'i gilydd i roi gobaith, cefnogaeth a datrysiadau i ddod â digartrefedd i ben, unwaith ac am byth.


Lindsay Cordery-Bruce - Prif Weithredydd, Y Wallich