Jump to content

27 Rhagfyr 2021

Stuart Ropke yn bwrw golwg yn ôl ar 2021

Stuart Ropke yn bwrw golwg yn ôl ar 2021

Mae llawer i edrych yn ôl arno a bod yn falch ohono i fy holl gydweithwyr yn Cartrefi Cymunedol Cymru, a’n haelodau, yn y flwyddyn ddiwethaf. Efallai i ni dreulio’r rhan fwyaf o’r flwyddyn yn gweithio gartref fel y gwnaethom yn 2020, ond gallwn fod yn hyderus y cafodd ein gwaith wrth ochr cymdeithasau tai a gyda phartneriaid eraill argraff enfawr.

Roedd 2021 bob amser yn mynd i fod yn flwyddyn heriol gydag etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai ar ben Covid-19. Ddiwedd y llynedd fe wnaethom lansio ein maniffesto Cartref! a osododd feincnod ar yr hyn y byddai’r sector tai ei angen os oedd i ffynnu. Roeddem eisiau i bwy bynnag fyddai’n arwain Llywodraeth Cymru ar ôl mis Mai 2021 i fuddsoddi a chefnogi digon o gartrefi fforddiadwy, diogel a charbon isel dros dymor nesaf y Senedd. Gan symud ymlaen yn gyflym i’r gyllideb ddrafft ar 20 Rhagfyr, rydym yn awr yn gweld yr ymrwymiad hwnnw; 20,000 o gartrefi cymdeithasol i gael eu hadeiladu dros y pedair blynedd nesaf a’r buddsoddiad mwyaf erioed o £1bn yn y sector tai.

Mae cyflawni lefelau record o fuddsoddiad yn adlewyrchu ymdrech tîm go iawn gan bawb ar draws Cymru a wnaeth yr achos dros dai ac mae CHC wedi chwarae rhan lawn yn yr ymgyrch honno. Byddwn yn treulio 2022 yn gwneud yn siŵr fod y llywodraeth yn cefnogi’r buddsoddiad a wnaiff mewn tai cymdeithasol ac yn helpu i greu amgylchedd gweithredu cadarnhaol i alluogi ein haelodau i adeiladu’r cartrefi hyn ar gyfer y rhai sydd eu hangen.

Rydym wedi gwneud mwy na dim ond dylanwadu ar bolisi tai yng Nghymru a gwneud yr achos dros fuddsoddi mewn cartrefi newydd – gwnaethom yn sicr fod y sector tai yn ganolog i syniadau am ddatgarboneiddio. Gan fod llawer ohonom wedi treulio mwy o amser gartref nag unrhyw le arall yr ychydig flynyddoedd diwethaf hyn, mae mwy o ymwybyddiaeth o sut ydym yn byw, yn ogystal â ble yr ydym yn byw. Wrth i lefelau tlodi a digartrefedd barhau’n llawer rhy uchel, mae digon ar ôl i’w gyflawni a byddwn yn parhau i drin y materion sy’n bwysig i’n haelodau a’u cefnogi yn eu cais i fod yn wych.

Wrth i ni fynd i mewn i 2022, gyda’r pandemig yn dal i fod gyda ni, mae’n sicr fod llawer o heriau a mwy o newid i ddod. Byddwn yn parhau gyda help ein bwrdd a chydweithwyr i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf, nid yn unig yn sut y gosodwn ein blaenoriaethau ond hefyd sut y darparwn ein gwasanaethau i’n haelodau. Ymddengys yn glir na fydd pethau yn dychwelyd i sut oeddent cyn i Covid-19 ddod i ddominyddu ein byd yn ôl ym mis Mawrth 2022, a’r her yn awr yw sicrhau fod eich corff aelodaeth yn ffit ar gyfer byd sydd wedi newid.