Jump to content

13 Hydref 2023

Cyflwyno Gallagher fel ein partner corfforaethol newydd

Cyflwyno Gallagher fel ein partner corfforaethol newydd

Fel rhan o’n cyfres yn croesawu ein partneriaid corfforaethol newydd buom yn siarad gyda Jill Jones, cyfarwyddwr cyfrif Gallagher, i ganfod pam eu bod eisiau cynnig eu gwasanaethau arbenigol i gefnogi’r sector tai cymdeithasol.

Pam oeddech chi eisiau bod yn bartner diweddaraf Cartrefi Cymunedol Cymru?

Mae Gallagher yn hynod falch i ddod yn bartner corfforaethol Cartrefi Cymunedol Cymru. Ar ôl gweithio gyda CHC am nifer o flynyddoedd roeddem eisiau dod yn bartner a pharhau i gael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar draws y sector tai cymdeithasol.

Pa fuddion fyddwch chi yn eu cynnig i’r cymdeithasau tai sy’n aelodau CHC fel partner?

Mae gennym dros 20 mlynedd o brofiad ar draws sector tai cymdeithasol Cymru, felly rydym yn edrych ymlaen at rannu ein gwybodaeth leol a’n harbenigedd gydag aelodau CHC.

Mae ein tîm yn brofiadol iawn mewn darparu datrysiadau yswiriant, risg ac ymgynghoriaeth i ddarparwyr tai Cymru felly byddwn ar gael i gefnogi cymdeithasau tai gyda’u gwaith dydd i ddydd ond hefyd roi cyngor ar unrhyw faterion a all godi yn y sector.

Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?

Mae Gallagher yn gynghorydd arbenigol, mae ei wasanaethau yn cynnwys:

  • darparu gwasanaethau risg, yswiriant ac ymgynghoriaeth i’r sector tai;
  • cynllunio rhaglenni risg ac yswiriant i weddu proffil ac awydd risg pob sefydliad;
  • darparu gwasanaethau ymgynghoriaeth risg tebyg i adolygiadau risg strategol, hyfforddiant rheoli risg a chymorth awydd risg;
  • gwasanaethau ymgynghori iechyd a diogelwch a hyfforddiant;
  • adolygiadau llywodraethiant a chymorth llywodraethiant

Find out more from Gallagher Housing:

Website: www.ajg.com/uk

Instagram: gallagherglobal:

Twitter: @GallagherUK

LinkedIn: Gallagher UK

Email: jill_jones1@ajg.com

Website: www.ajg.com/uk

Twitter: @GallagherUK

LinkedIn: Gallagher UK

Instagram: gallagherglobal