Jump to content

13 Mehefin 2019

Rydym angen mwy o bobl o wahanol gefndiroedd i ehangu amrywiaeth yn yr ystafell fwrdd

Rydym angen mwy o bobl o wahanol gefndiroedd i ehangu amrywiaeth yn yr ystafell fwrdd
Dim ond 30 oed oedd Nicola Evans pan ddaeth yn Gadeirydd Cartrefi Cymoedd Merthyr, ar ôl magu diddordeb mewn tai pan oedd yn gweithio fel Swyddog Polisi i Cymorth Cymru. Bellach yn Arweinydd Hawliau a Chydraddoldeb ar gyfer Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, mae Nicola yn sôn am y cysylltiadau a welodd rhwng cymdeithasau tai a gofal cymdeithasol, a'r hyn a olygodd ei rôl fel Cadeirydd i'w datblygiad proffesiynol.


"Yn ystod fy amser gyda Cymorth, roeddwn yn gweithio'n eithaf agos gyda chymdeithasau tai o safbwynt digartrefedd, felly pan ddaeth gyfle i ymuno â bwrdd Cartrefi Cymoedd Merthyr, neidiais ar y cyfle i weld pethau o'r ochr arall.


Nawr yn fy swydd gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, mae'r cysylltiadau rhwng tai cymdeithasol a darparu system gofal cymdeithasol gynaliadwy hyd yn oed yn gliriach. Nid dim yr angen am fwy o gartrefi mae'r argyfwng tai yn ei olygu, i fi, mae'n bwysig edrych ar y mathau o gartrefi rydym eu hangen i sicrhau ein bod yn adeiladu'r math cywir o gartrefi sy'n diwallu anghenion gofal a chymorth pobl hefyd - mae ongl hawliau dynol glir i fynd i'r afael â'r mater hwn.


Mae dolen anochel rhwng fy swydd ddydd a fy rôl fel Cadeirydd, sydd wedi fy ngalluogi i dyfu'n broffesiynol.


Roedd dod yn Gadeirydd bum mlynedd yn ôl yn brofiad oedd yn codi ychydig o ofn arnaf. Nid oedd llawer o fenywod ifanc yn gadeiryddion cymdeithasau tai bryd hynny felly roedd pobl yn aml yn cael sioc pan sylweddolent mai fi oedd y cadeirydd ac nid yno i wneud y te! Yn gyffredinol, mae aelodau bwrdd yn tueddu i fod yn hŷn ac mae nifer fawr ohonynt yn ddynion felly mae'n bwysig ein bod yn mynd ati i annog mwy o bobl o wahanol gefndiroedd i wneud cais am swyddi er mwyn ymestyn amrywiaeth yn yr ystafell fwrdd. Gallai hynny olygu fod angen i ni wneud pethau'n wahanol i sicrhau fod hyn yn digwydd - wedi'r cyfan, mae amrywiaeth barn yn gonglfaen gwneud penderfyniadau da ac mae llywodraethiant da yn hollbwysig er mwyn parhau i herio'n hunain fel sefydliadau a dysgu o rannu arfer gorau ar draws y sector.


I mi, mae'r sgiliau a enillais a'r cyfleoedd rhwydweithio a gefais wedi rhagori o bell ar unrhyw agweddau anodd sy'n dod gyda bod yn Gadeirydd. Ac er y gall y rôl yn aml fwyta i fy amser personol a fy ngwyliau blynyddol, rwy'n dod â sgiliau gwerthfawr iawn yn ôl i'r swydd ddydd. Oherwydd hynny, rwyf bob amser yn awyddus i annog menywod ifanc i feddwl am ymuno â bwrdd cymdeithas tai ac rwy'n wirioneddol falch fod Cartrefi Cymoedd Merthyr yn cefnogi cynllun 'Step to Non Exec' sy'n cynnig cyfle i fenywod ifanc 21-30 oed i gael profiad ymarferol a hyfforddiant ar lywodraethiant a swyddi anweithredol."


Mae mwy o wybodaeth am ein hyfforddiant Llywodraethiant a'n Cod Llywodraethiant ar gael yma.