Jump to content

09 Medi 2021

Gweithredu ar gydraddoldeb ac amrywiaeth

Gweithredu ar gydraddoldeb ac amrywiaeth

Ddiwedd 2020, ar ôl treulio’r haf yn meddwl yn ddwfn am lofruddiaeth George Floyd a’r protestiadau byd-eang a ddilynodd, ysgrifennais bod Cartrefi Cymunedol Cymru wedi bod yn hunanfodlon wrth fynd i’r afael â gwahaniaethu diarwybod ym mhrosesau, diwylliant a iaith ein sefydliad. Heb wneud newidiadau sylweddol, roedd yn amlwg na fedrem gyflawni ein cenhadaeth “i alluogi cymdeithasau tai i fod yn wych”, ac y byddem yn methu os nad oeddem yn cofleidio yn llawn amrywiaeth Cymru a phrofiad pawb sy’n ystyried mai’r genedl hon yw eu cartref.

Ond nid oedd myfyrio ar ein hangen am newid sefydliadol yn golygu dim byd heb weithredu.

Fe wnaethom lofnodi ymrwymiad “Gweithredoedd nid Geiriau'' i’n galluogi i weithio gyda Tai Pawb a’n haelodau a lofnododd yr ymrwymiad, yn ogystal â’r rhai a ddewisodd ddilyn trywydd gwahanol. Rydym hefyd wedi llofnodi polisi dim goddefgarwch Dim Hiliaeth Cymru.

Ar ben hynny, rydym yn ymroddedig i lunio ein strategaeth a chynlluniau gweithredu ein hunain i adlewyrchu anghenion a natur ein busnes fel corff cynrychioli cymdeithasau tai Cymru. Ond roeddem yn sylweddoli nad oedd y profiad angenrheidiol gennym i ddechrau ar y daith hon ar ein pen ein hunain.

Drwy gydol 2021, buom yn gweithio gyda chefnogaeth rhai o’n haelodau i greu Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Yn ein llywio roedd yr Athro Uzo Iwobi OBE, sefydlydd Cyngor Hil Cymru ac ymgynghorydd ar gydraddoldeb i Lywodraeth Cymru. Rhan enfawr o’i chefnogaeth oedd ein cysylltu gyda phanel arbenigol o arbenigwyr cydraddoldeb, yn cynrychioli gwahanol gymunedau a nodweddion gwarchodedig yng Nghymru, i roi’r feirniadaeth a her angenrheidiol i’n syniadau.

Wrth ochr y Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mae Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil fel glasbrint i ddechrau trin yr heriau sefydliadol hynny ac i’n dal yn atebol yn y pen draw am ein hymrwymiadau.

Yn dilyn cymeradwyaeth gan y bwrdd, rydym yn falch iawn i fedru lansio’r strategaeth hon a’r cyntaf o’n cynlluniau gweithredu â ffocws ar gydraddoldeb hil heddiw. Fodd bynnag, nid diwedd ein gwaith yw hyn, ond y dechrau.

Mae llawer mwy o waith i’w wneud a chynnydd i’w sicrhau. Er i ni wneud peth cynnydd mewn amrywiaeth ar ein bwrdd, a gobeithiwn y bydd y rhai sy’n mynychu a siarad yn ein cynadleddau wedi gweld ein hymdrechion i amrywio ein rhaglenni cynhadledd i adlewyrchu’r cymunedau y gweithiwn ynddynt, mae llawer mwy i’w wneud gyda’n recriwtio, rhaglen hyfforddiant ac yn hollbwysig ein gwaith polisi ac eiriolaeth. Mae angen i ni fod yn gymaint mwy ymwybodol o’r effaith ar gydraddoldeb ein datblygiad polisi.

Fel Prif Weithredydd yr wyf, wrth gwrs, yn atebol i’n bwrdd ond hefyd i’n haelodau ac fel sefydliad rydym yn ymroddedig i adlewyrchu ar a chyhoeddi ein cynnydd ar y camau gweithredu a’r targedau a amlinellwyd yn y strategaeth a’r cynllun gweithredu.

Nid y strategaeth yw’r gair olaf chwaith – mae angen iddi fyw ac anadlu fel dogfen, gan ddangos profiadau a gafwyd a gwersi a ddysgwyd. Mae cyhoeddi geiriau ar wefan yn rhwydd. Mae gyrru newid sylweddol a gweithredu ar ein haddewidion yn llawer anos, ond mae’n her na fyddwn yn ei hosgoi.