Partneriaethau masnachol newydd yn cryfhau cynnig CHC
Bydd yr Etholiad i Senedd Cymru yn gosod gorwel newydd ar gyfer Cymru a bydd cymdeithasau tai yn sefyll ar drothwy pennod ddiffiniol.
I gefnogi ein haelodau drwy’r pontio hanfodol hwn, rydym yn hynod falch i gyhoeddi 7 partneriaeth fasnachol newydd.
Bydd y sefydliadau hyn, ynghyd â’n 10 partner presennol, yn rhoi’r arbenigedd mae’r sector ei angen i droi ei uchelgais am fwy o gartrefi, cartrefi gwell a lleoedd iachach a thecach yn gamau gweithredu ymarferol.
“Rydym yn hynod falch i gael saith partner masnachol yn ymuno â ni. Bydd eu harbenigedd a’u cefnogaeth yn rhoi cymdeithasau tai mewn sefyllfa well byth i chwarae eu rhan i’r eithaf wrth roi diwedd ar argyfwng tai Cymru a darparu 60,000 yn fwy o gartrefi fforddiadwy dros y 10 mlynedd nesaf fel bod 20% o’r holl gartrefi yng Nghymru yn gartrefi fforddiadwy”, meddai Stuart Ropke, Prif Weithredwr CHC.
Ychwanegodd Louise Price-David, Pennaeth Aelodaeth a Phartneriaethau: “Mae ein partneriaid masnachol yn rhoi’r dulliau gweithredu a’r cymorth ymarferol mae cymdeithasau tai eu hangen i dyfu a pharhau’n sefydliadau gwydn sydd yn barod ar gyfer y dyfodol ac sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’r cymunedau a wasanaethant. Bydd y saith partner newydd yn rhoi mynediad i ystod ehangach byth o arbenigedd i’n haelodau ac yn agor cyfleoedd strategol ar gyfer cydweithio, a fedra i ddim aros i weld yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd”.
Ein partneriaid masnachol newydd ar gyfer 2026/27 yw:
Cubed Tax
Arbenigwyr mewn: Cyngor ar drethiant
Ffocws ar: Rhoi cyngor ariannol, esbonio rhwymedigaethau cyfreithiol a chyllidol, cynrychioli CHC yn y Grŵp Cydlynu Tir ac Eiddo a gwella effeithiolrwydd ariannol.
Darganfyddwch fwy
E.ON Green Funding Solutions
Arbenigwyr mewn: Ôl-osod cymunedol
Ffocws ar: Datgarboneiddio ac ôl-osod, gwella ansawdd tai a chynaliadwyedd
Darganfyddwch fwy
Danske Bank
Arbenigwyr mewn: Cyllid tai cymdeithasol
Ffocws ar: Cyllid, gwerth cymdeithasol a chyfleoedd cyllido
Darganfyddwch fwy
Insight HRC
Arbenigwyr mewn: Arweinyddiaeth, diwylliant a datblygu tîm
Ffocws ar: Paratoi ar gyfer y dyfodol, amgylcheddau corfforaethol, uwchsgilio arweinwyr a hyrwyddo gwytnwch ar gyfer newid gwleidyddol a chymdeithasol
Darganfyddwch fwy
Openreach
Arbenigwyr mewn: Seilwaith rhwydwaith digidol
Ffocws ar: mynd i’r afael ag allgau digidol, hyrwyddo llesiant preswylwyr, paratoi cymunedau ar gyfer y dyfodol a sicrhau mynediad teg i wasanaethau hanfodol
Plentific
Arbenigwyr mewn: Platfformau gweithrediadau eiddo gydag awtomeiddio cysylltiedig a dirnadaeth a yrrir gan ddeallusrwydd artiffisial.
Ffocws ar: Gweithredu deallusrwydd artiffisial, ymgysylltu â thenantiaid, rheoli asedau, gwella ansawdd tai
Darganfyddwch fwy
PureCyber
Arbenigwyr mewn: Seiberddiogelwch
Ffocws ar: Paratoi ar gyfer y dyfodol rhag bygythiadau sy’n dod i’r amlwg a helpu sefydliadau i lywio’r tirlun digidol cymhleth yn hyderus
Darganfyddwch fwy
Rydym yn ddiolchgar tu hwnt am gefnogaeth barhaus ein partneriaid cyfredol, Barcud Shared Services, Centrus, CHIC, Gallagher, Hugh James, Lovell, Quantum Advisory, Savills ac Utility Aid. Edrychwn ymlaen at ymchwilio cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio gyda’n holl bartneriaid yn y flwyddyn i ddod.