Jump to content

17 Ebrill 2020

Newid swydd feunyddiol yn dod â chanlyniadau gwerth chweil

Newid swydd feunyddiol yn dod â chanlyniadau gwerth chweil
Mae Covid-19 yn gyflym yn newid y byd o’n hamgylch, ac yn cael effaith ddybryd ar swyddi, cymunedau a bywydau pobl.


Mae cymdeithasau tai yn cefnogi dros 250,000 o denantiaid yng Nghymru ac yn y cyfnod ansicr yma, maent wedi addasu’r gwasanaethau a gynigiant i sicrhau fod tenantiaid yn parhau’n ddiogel a saff yn eu cartrefi. Mae Rhiannon Hicks a Keith Henson ill dau yn hunanynysu am resymau iechyd, ond maent wedi medru parhau i wneud gwaith cymorth hanfodol ar ran Tai Ceredigion yn ystod y cyfyngiadau symud oherwydd Coronafeirws.


Rhiannon: “Er bod gwaith wedi newid yn sylweddol oherwydd Covid-19, rwy’n dal i fod â gliniadur a mynediad i’r rhyngrwyd yn fy nghartref, felly mae’r cyfan wedi bod am ddefnyddio’r rhain i gael effaith ar y gwasanaeth a gynigiwn i denantiaid. Rwy’n falch bod yn rhan o dîm sy’n ffonio tenantiaid. Gwnawn yn siŵr fod ganddynt y moddion a’r cyflenwadau maent eu hangen, gwirio ar eu llesiant cyffredinol, rhoi cyngor ar unrhyw bryderon a all fod ganddynt am rent neu fudd-daliadau, a gweld os ydynt mewn cysylltiad rheolaidd gyda chyfeillion a pherthnasau.


Rwy’n ddiolchgar i fod mewn sefyllfa i helpu ein holl denantiaid oedrannus a bregus, tra fod yn rhaid i mi fod yn ofalus o fy iechyd fy hun. Bu’n wych siarad gyda nhw i gyd a rhoi cymaint o gymorth ag a fedrwn iddynt yn y cyfnod ansicr yma. Mae sgwrs fach siriol pan na allant weld unrhyw un arall yn sicr yn ddiwrnod da o waith.”


Keith: “Yn ychwanegol at y Cydlynwyr Cynlluniau sydd yng ngofal ein cynlluniau gwarchod, buom yn gweithio gyda’r tîm tai i lunio cynllun cymorth ar gyfer tenantiaid oedrannus a bregus yn y gymuned i wneud yn siŵr ein bod yn medru cysylltu â phawb a sicrhau y caiff eu hanghenion eu diwallu. Roedd yn wych bod yn rhan o dîm o chwech o bobl a ffoniodd bron 500 o denantiaid, ac yna i glywed yr ymateb cadarnhaol gan berthnasau a chyfeillion y tenantiaid hefyd sy’n cael eu cysuro fod eu hanwyliaid yn derbyn gofal a chymorth iawn ar yr amser hwn. Mae ardal ddaearyddol Ceredigion yn heriol ac mae bron yn amhosibl trefnu dosbarthiadau ar-lein (os ydynt ar gael o gwbl) felly rydym yn defnyddio rhestr o gysylltiadau lleol ar gyfer pob rhan o’r sir a gafodd ei llunio ar gyfer dosbarthiadau bwyd a grwpiau gwirfoddol ar gyfer casgliadau o fferyllfeydd.


Rwy’n ffodus i fod mewn sefyllfa fod fy nghyflogwr yn ystyriol ac yn caniatáu i ni weithio o gartref a chynnig y gwasanaeth ‘rhithiol’ yma. Mae fy swydd arferol yn wahanol i hyn ac nid wyf fel arfer yn cael cyfle i fod mewn cysylltiad gyda thenantiaid yn y ffordd yma. Mae’n her werth chweil mewn cyfnod na fu erioed ei debyg.’


Bydd cymdeithasau tai yng Nghymru yn rhoi sylw i’w gwaith i gefnogi tenantiaid yng Nghymru drwy ymgyrch newydd ‘Gyda Chi’. Dilynwch yr ymgyrch hon drwy dudalen Twitter CHC @CHCymru a chwilio am hashnod #gydachi