Fy mhwyntiau allweddol o’r Uwchgynhadledd Tai: Deallusrwydd artiffisial, adfywio a datgarboneiddio

Yn y blog hwn mae Jonathan Conway, ein Arweinydd Aelodaeth, yn rhannu ei brif bwyntiau o Uwchgynhadledd y Gymuned Tai 2025
Mae’n anodd credu yr aeth mwy nag wythnos heibio ers i mi ddod yn ôl o Lerpwl. Roedd yr uwchgynhadledd yn brofiad anhygoel, ac roedd yn wych gweld ein haelodau o bob rhan o Gymru yn cyfrannu eu profiad a’u harbenigedd ar lwyfan Prydain-gyfan.
Cafodd y sesiynau y medrais eu mynychu a’r bobl y cysylltais â nhw effaith fawr arnaf felly roeddwn am fanteisio ar y cyfle hwn i rannu rhai o’r syniadau a gefais yno tra’u bod yn dal yn ffres yn fy meddwl.
Roedd ffocws cryf ar ddeallusrwydd artiffisial, pwnc sy’n bendant yn flaenllaw ym meddwl y sector cyfan wrth i ni ystyried defnydd, cyfleoedd a risgiau’r dechnoleg hon sy’n datblygu’n gyflym.
Rhai pwyntiau allweddol:
- Ffocws ar pam ein bod yn defnyddio deallusrwydd artiffisial, ac nid o reidrwydd sut i wneud hynny yn y lle cyntaf.
- Ni ddylid datganoli gwneud penderfyniadau i ddeallusrwydd artiffisial. Dylid ei ddefnyddio i gefnogi penderfyniadau a wneir gan bobl ac nid disodli hynny. Fel y dywedodd Deidre LaBassiere LLB (Anrh) FTLS, mae deallusrwydd artiffisial angen “llywodraethiant gydag enaid”. Mae rhyngweithio ac empathi dynol yn hanfodol.
- Mae ansawdd yr hyn a gewch allan o ddeallusrwydd artiffisial yn dibynnu ar ansawdd y data y rhoddwch fynediad iddo. Ac er fod data yn bwysig, mae angen iddo gael ei wneud yn real gyda naratif.
- Gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial i ragweld angen ac i helpu cyflenwi datrysiadau cyflym ac effeithlon, ond mae hefyd angen i ni fod yn wyliadwrus rhag iddo etifeddu rhagfarn ac edrych ar yr allbynnau drwy wahanol lensiau. Er enghraifft, ystyried bylchau mewn data ar rywedd ac adolygu data cwynion/bodlonrwydd yn ôl rhywedd i wella dealltwriaeth.
- Dylid meddwl am fanteision deallusrwydd artiffisial o ran y busnes a’r tenantiaid, a dylai cymdeithasau tai fod yn siarad gyda thenantiaid am sut maent yn ei ddefnyddio o fewn y sefydliad.
Gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial i ragweld angen ac i helpu cyflenwi datrysiadau cyflym ac effeithlon, ond mae hefyd angen i ni fod yn wyliadwrus rhag iddo etifeddu rhagfarn ac edrych ar yr allbynnau drwy wahanol lensiau.
Roedd adfywio hefyd yn thema gref. I mi, roedd y penawdau o’r trafodaethau hyn yn cynnwys:
- Mae adfywio ar raddfa fawr yn cymryd amser. Mae angen i ni fod yn meddwl mewn termau prosiectau 10 mlynedd, gyda’r buddion llawn efallai ddim yn cael eu gwireddu tan 3 neu 4 mlynedd ar ôl eu cwblhau.
- Mae cydweithio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn hanfodol i lwyddiant y prosiectau hyn. Gweithio gyda a chefnogi mudiadau llawr gwlad i gael mynediad i gymunedau a’u cefnogi.
- Mae cysondeb sefydlogrwydd gwleidyddol ac ariannol yn wirioneddol bwysig.
- Ffocws ar y gymuned. Wrth ystyried p’un ai i adfywio ardal ai peidio, mae’n hanfodol deall sut beth yn union yw hi i fyw yno. Mae gwerth cymdeithasol mor bwysig ag adfywio ffisegol.
Roedd y llwybr at ddatgarboneiddio a Sero Net, yn ogystal â’i oblygiadau yn nhermau cyllid ac adnoddau, yn bwnc trafod poeth arall. Dyma rai o’r ystyriaethau sydd wedi aros gyda fi:
- Peidio bychanu’r angen i weithio gydag arbenigwyr i ddeall beth fydd yn gweithio ar gyfer gwahanol fathau o adeiladau. Mae’n hanfodol cael data cyfredol ar stoc.
- Deall eich bod yn gweithio yng nghartref tenantiaid! Mae ôl-osod yn tarfu ac mae symud i ffwrdd o wres ar unwaith yn mynd i fod yn newid mawr i denantiaid. Mae’r cyfryngau wedi achosi erydu mewn ymddiriedaeth ac mae tenantiaid yn gynyddol yn teimlo fel testunau arbrawf, felly mae’n hanfodol deall ac ymateb i’w pryderon, nid dim ond yn y cyfnod yn union cyn gosod technoleg newydd ond wedyn hefyd.
- Yng Nghymru, mae targedau wedi achosi rhai mathau aneffeithiol o ymddygiad. Yn aml, bu ffocws ar ateb targedau tymor byr ar draul y llwybr mwyaf effeithiol i gyflawni’r uchelgais hirdymor ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn agored i ddialog ac mae partneriaethau y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio wedi bod yn weddol lwyddiannus.
Dychwelais o Lerpwl wedi cael ail wynt, fy meddwl yn brysur wrth i mi ystyried sut y gallem ddod â pheth ohono i’n cynnig i aelodau.
Os buoch yno, ydi’r rhain yn taro tant gyda chi? Beth oedd y pwyntiau allweddol i chi?