Dyma Disqus . . .
Fel corff masnach cymdeithasau tai yng Nghymru, un o’n swyddi allweddol yw rhoi mannau i’n haelodau ddysgu a helpu ei gilydd drwy rannu gwybodaeth ac arfer gorau ar bynciau allweddol. Mae Disqus yn un o’r mannau hyn.
Mae Disqus yn ategyn fforwm a ddefnyddiwn i greu gwahanol fyrddau trafod ar y pynciau pwysicaf mae ein haelodau yn siarad amdanynt. Caiff ei osod ar ein gwefan, sy’n golygu na fydd angen i chi fewngofnodi ar wahân er mwyn eu cyrraedd.
Mae’r byrddau trafod pwnc cyntaf yn ymwneud â’r argyfwng costau byw a daw o fewn ein hyb costau byw. Gallwch weld y bwrdd yma.
Byddwn yn ychwanegu mwy o fyrddau trafod ar ein gwefan yn gynnar yn 2023 ar bynciau y gwyddom sy’n bwysig i chi. Bydd hyn yn galluogi aelodau gyda gwahanol swyddi mewn sefydliadau ar draws y sector i ryngweithio ac i ymgysylltu.
Bydd angen i chi fewngofnodi i gyfrif CHC I weld a rhoi sylwadau ar y bwrdd trafod. Unwaith y byddwch i mewn, gallwch ddarllen negeseuon gan gydweithwyr a rhoi sylwadau a’ch lluniau eich hun.
Er y gallwch ychwanegu dolenni i’ch sylwadau, nid yw’n bosibl lanlwytho dogfennau llawn ar Disqus. Os credwch fod unrhyw adnoddau y dylid eu rhannu gydag eraill yn y sector, anfonwch e-bost at memberservices@chcymru.org.uk fel y gellir eu cylchredeg yn defnyddio’r sianeli priodol.
Os dymunwch ddefnyddio Disqus ond nad oes gennych gyfrif ar wefan CHC hyd yma, gallwch greu un yn https://chcymru.org.uk/cy/register.
Ar Disqus gallwch hefyd danysgrifio i fyrddau i dderbyn diweddariad e-bost pan gaiff sylwadau newydd eu postio fel nad oes yn rhaid i chi edrych yn ôl drwy’r amser. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar gyfer ein tîm ar y pwnc fforwm yr ydych yn rhoi sylwadau arno, tagiwch enw’r aelod staff a restrir ar dop y bwrdd trafod a byddwn yn anelu cysylltu â chi o fewn dau ddiwrnod gwaith.
Mae hwn yn fan i chi siarad am arfer gorau, rhannu heriau a gofyn cwestiynau. Er mai dim ond aelodau a all weld y byrddau, rydym wedi llunio rheolau ymddygiad i sicrhau ei fod yn fan diogel ac adeiladol. Gofynnir i chi ddarllen y rheolau hyn cyn dechrau rhyngweithio gyda’r bwrdd. Bydd staff CHC yn cymedroli’r fforymau ac yn dileu unrhyw sylwadau sy’n torri’r rheolau.
Angen rhywbeth mwy gweledol i ddod i arfer gyda Disqus? Dyma ganllawiau byr ar gyfer aelodau.
Yn barod i roi cynnig ar ddewis Disqus? Defnyddiwch y bwrdd islaw i weld sut mae’n edrych, gadael sylw i brofi a chwarae o amgylch gyda’r nodweddion cyn i chi edrych ar ein byrddau trafod eraill.
Oes gennych chi gwestiwn i’n tîm? Tagiwch @Juliasorribes neu @Ruthdawson