Jump to content

10 Ebrill 2019

Dod yn Gadeirydd neu Is-gadeirydd!

Rydym yn chwillo am Gadeirydd ac Is-gadeirydd i redeg ein Grwpiau Cyflenwi Strategol.

Mae'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn gyfrifol am:

  • cefnogi arweinwyr CHC i ddatblygu cynllun gwaith
  • gosod yr agenda a chadeirio cyfarfodydd (felly bydd angen i chi fod ar gael bob chwarter!)

Yn ôl am hyn cewch

  • hyfforddiant ar gadeirio effeithlon
  • dod i gysylltiad gyda sefydliadau eraill a'u gwaith
  • cyfleoedd dysgu a datblygu a chyfle i rwydweithio

Cofiwch y gallwch ddarllen am ein Grwpiau Cyflenwi Strategol yma.

Diddordeb? Dyma ddywedodd Maxine Wiseman o Trivallis am ei phrofiad

“Ar hyd fy ngyrfa rwyf wedi pwyso am i Adnoddau Dynol gael ei gydnabod fel swyddogaeth busnes strategol. Mae bod yn Gadeirydd y Grŵp Cyflenwi Strategol Adnoddau Dynol wedi fy ngalluogi i weithio gyda swyddogion Adnoddau Dynol ar draws y sector i ddangos ein gwerth a gwneud cyfraniad ystyrlon i gyfeiriad strategol tai yng Nghymru, sydd yn ei dro o fudd i fy sefydliad fy hun.”

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost at Borbala Martos 150 gair erbyn canol dydd ar 15 Ebrill os gwelwch yn dda yn esbonio pam fod gennych ddiddordeb yn y swydd, eich sgiliau a ph'un ai mewn sefyll ar gyfer swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd y mae gennych ddiddordeb.

Aiff eich cais drwodd i bleidlais, a byddwn yn cadarnhau erbyn dechrau mis Mai.