Jump to content

11 Awst 2017

Arloesydd tai yng Nghymru yn trawsnewid hen orsaf ambiwlans yn dai newydd




Cafodd fy ymweliad diweddar i gynllun tai newydd sy'n cael ei adeiladu yn Lloegr ar gyfer Cyngor Dosbarth Cherwell argraff enfawr arnaf.


Mae'r cyngor wedi datblygu hen safle ambiwlans ac wedi trawsnewid yr adeilad yn 6 bloc llety a gaiff ei rannu yn defnyddio dulliau adeiladu oddi ar y safle.


Caiff dylunio a darpariaeth y cynllun ei reoli'n llwyr gan FI Modular, arloesydd tai o Gymru sydd wedi datblygu 28 o unedau hunangynwysedig, wedi'u gorffen yn llawn o'u ffatri yn y Drenewydd, Powys.


Mae F1 Modular yn defnyddio'r dulliau a deunyddiau adeiladu presennol ac yn eu haddasu o fewn amgylchedd ffatri i ddarparu adeiladau ansawdd rhagorol a orffennir o fewn amgylchedd wedi'i reoli i ISO9000. Mae'r dull adeiladu hwn yn caniatáu cywirdeb cost a sicrwydd cost, yn ogystal â darpariaeth sylweddol gyflymach gyda'r ymyriad lleiaf posibl i'r amgylchedd lleol.


Enillodd F1 Modular y prosiect drwy fframwaith tai arloesol ymaith o'r safle a sefydlwyd gan yr arbenigydd caffaeliad nid-er-elw LHC Mae'r fframwaith yn galluogi landlordiaid cymdeithasol i ymgysylltu'n uniongyrchol gyda phanel a ddetholwyd ymlaen llaw o weithgynhyrchwyr a chontractwyr oddi ar safle gan gydymffurfio'n llwyr gyda Rheoliadau Contractau Cyhoeddus. Yng Nghymru, mae'r fframwaith ar gael drwy Gynghrair Caffaeliad Cymru (WPA) a gall awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yng Nghymru ei ddefnyddio i gaffael datrysiadau tai arloesol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).


Rwy'n sicr fod llawer o gyfleoedd ledled Cymru i drawsnewid safleoedd bach segur yn gynlluniau tai ansawdd uchel ar gyfer y bobl sydd fwyaf mewn angen. Hyd yma, aeth y rhan fwyaf o'r tai a gynhyrchwyd yn ffatri F1 i'r Alban a Lloegr. Mae WPA yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ganfod safleoedd addas yng Nghymru. Cynhaliwn gyfarfod nesaf yr WPA yn ffatri F1 ar 15 Tachwedd a byddai croeso i landlordiaid cymdeithasol ymuno â ni.
Neil Barker
– Pennaeth Gweithrediadau, WPA