Jump to content

16 Hydref 2025

Datganiad CHC ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Cartrefi Pobl Niweidiadwy

Cafodd ymateb diweddar Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar gymorth tai i bobl sy’n agored i niwed ei drafod yn y Senedd.

Roedd talu teyrnged i’r gweithlu cymorth tai yn thema gyffredin yn y ddadl. Galwodd Joel James AS am sicrwydd cyllid cyson sy’n eu galluogi i fynd ymlaen gyda’r gwaith o helpu pobl, yn hytrach na gorfod treulio cymaint o amser yn gwneud cais am grantiau, poeni am y cylch cyllid nesaf neu’n pryderu os byddant yn gymwys am gynnydd mewn cyllid.

Roedd ein hymateb i ymchwiliad y Pwyllgor yn dangos yr heriau niferus sy’n wynebu gwasanaethau cymorth tai ein haelodau, yn cynnwys sicrwydd am gyllid, diffyg data cenedlaethol cadarn, gweithio partneriaeth ar lefel leol a chadw’r gweithlu.

Yn ganolog i’r pryderon hyn yw’r Grant Cymorth Tai (HSG) na chaiff ei werthfawrogi yn ddigonol ac nad yw hefyd yn derbyn cyllid digonol. Mae’r HSG yn offeryn hanfodol ar gyfer atal digartrefedd a chadw pobl mewn tenantiaethau. Galwodd ein hymateb ar Lywodraeth Cymru i:

  • Sefydlogi’r sector cymorth tai drwy ddiogelu gwasanaethau cymorth tai a gomisiynir eisoes drwy gyllid aml-flwyddyn digonol ac sydd wedi ei neilltuo sy’n talu’n llawn am gost cyflenwi gwasanaethau a buddsoddi yn y gweithlu medrus.

  • Buddsoddi mewn data manwl ar anghenion tai er mwyn deall yn well beth yw’r galw am, a’r cynnydd a wnaed, ar ddiwallu anghenion cymorth tai. Dylid defnyddio hyn fel sail i sefydlu buddsoddiad hirdymor mwy cywir ar gyllid y Grant Cymorth Tai. Roeddem yn falch fod adroddiad y Pwyllgor hefyd yn cyfeirio at y gofyniad hwn.

Er bod Llywodraeth Cymru yn derbyn llawer o’r heriau yn ymwneud â galw, cymhlethdod, pwysau a’r rheidrwydd am HSG, rydym yn siomedig fod eu hymateb yn sôn am gyfyngiadau ar y gyllideb ac nad yw’n mynd i’r afael â diffyg diwygiadau strwythurol i ailsefydlu a neilltuo cyllid.

Croesawn y sôn am y rôl y gallai’r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol ei chwarae fel y cyfrwng allweddol i sefydlu llawer o’r newidiadau mewn atal a chydweithredu Fodd bynnag, mae llwyddiant diwygio deddfwriaethol yn dibynnu ar HSG a gaiff ei gyllido’n ddigonol.

Teimlwn y collwyd cyfle hanfodol i gyflwyno gweledigaeth ar gyfer system yn y dyfodol sy’n datgloi potensial cudd drwy feithrin sicrwydd cyllid hirdymor fel y gall darparwyr gynllunio yn effeithlon a sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a’u staff.

Ar fater data, rydym yn falch i weld fod Llywodraeth Cymru yn derbyn ein hargymhelliad ni ac argymhelliad y pwyllgor i rannu crynodeb cenedlaethol o ddata canlyniadau HSG yn ddiweddarach yn 2025, yn seiliedig ar ddata a gyflwynwyd yn ymwneud â 2024-25. Bydd hyn yn galluogi’r sector cymorth tai i werthuso cynnydd a dynodi arfer da.