Jump to content

16 Mawrth 2020

Cyllideb y Deyrnas Unedig: Beth mae'n ei olygu i Gymru

Cyllideb y Deyrnas Unedig: Beth mae'n ei olygu i Gymru
Ar ôl llai na mis yn ei swydd, cyflwynodd y Canghellor Rishi Sunak ei Gyllideb gyntaf ar 10 Mawrth 2020. Yn ôl y disgwyl, roedd y cyhoeddiad yn canolbwyntio’n bennaf ar gefnogaeth ac ysgogiad i drin Coronafeirws – ac iawn hynny gyda’r Canghellor yn agor ei araith yn rhoi sylw i’r ymateb cyllidol i’r clefyd. Datgelwyd pecyn £30 biliwn yn sgil COVID-19, oedd yn cynnwys £5 biliwn ar gyfer cronfa ymateb argyfwng ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau cyhoeddus a chafodd tâl salwch statudol ei ymestyn i gynnwys unigolion a gafodd gyngor i hunan-ynysu ac i bobl sy’n gofalu am rai sy’n dangos symptomau COVID-19. Rhoddwyd cefnogaeth i fusnesau bach gyda’r llywodraeth yn addo ad-dalu costau tâl salwch statudol, a chynllun dros dro Cynllun Benthyca Ymyriad Busnes Coronafeirws yn cynnig benthyciadau hyd at £1.2 miliwn. Diddymir ardrethi busnes am flwyddyn ar gyfer blwyddyn dreth 2020-2021 ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda gwerth trethiannol dan £51,000. Cynigir grantiau arian o £3,000 i’r rhai nad ydynt yn gymwys am y cymorth hwn.


Cyhoeddwyd dau fesur argyfwng hefyd i roi cymorth ychwanegol drwy’r system llesiant mewn ymateb i COVID-19. Caiff y llawr isafswm incwm ei ddileu dros dro ar gyfer pobl hunangyflogedig sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yr effeithir arnynt neu sy’n dewis hunanynysu, a chaiff y cyfnod aros ar gyfer ESA seiliedig ar gyfraniadau ei ddileu dros dro. Ymhellach, ni wneir sancsiynau ar gyfer peidio mynychu apwyntiadau cyn belled ag y caiff hyfforddydd ei hysbysu ymlaen llaw. Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn croesawu’r cyhoeddiadau argyfwng i ehangu mynediad i gefnogaeth ariannol drwy’r system llesiant, ond byddem yn annog gweithredu pellach i atal caledi diangen a achosir gan gosbau yn ystod y cyfnod digyffelyb yma.


Sut fydd y gyllideb yn effeithio ar Gymru?


Addawodd Rishi Sunak £360 miliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys cynnydd o 5% yng nghyllid dilyniadol Barnett a gytunwyd fel rhan o fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru yn 2016.


Mae ardrethi busnes wedi eu datganoli, felly dim ond os yw Llywodraeth Cymru yn cyfateb y mesurau hynny y bydd y cyhoeddiadau a nodwyd uchod yng nghyswllt ardrethi busnes. Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, y defnyddir yr holl gyllid a ddaw i Gymru o gyhoeddiad Cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ardrethi annomestig i gefnogi busnes, ond bydd angen cadarnhad gan y Trysorlys cyn gwneud hynny.


Cydnabu’r Canghellor nad coronafeirws yw’r unig her sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig, a nododd nifer o gynlluniau i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Ailgyhoeddwyd Setliad y GIG, lle cyhoeddwyd £34 biliwn ychwanegol y flwyddyn erbyn 2023-24 a £750 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer recriwtio swyddogion heddlu ychwanegol. O ran tai, ymrwymodd y llywodraeth i greu o leiaf 1 miliwn o gartrefi newydd yn Lloegr erbyn canol 2020, £12.2 biliwn ar gyfer Rhaglen Cartrefi Fforddiadwy a £1 biliwn ar gyfer Cronfa Diogelwch Adeiladau i dynnu cladin anniogel o adeiladau preswyl dros 18 metr o uchder. Er mai dim ond yn Lloegr y bydd y ffigurau hyn yn weithredol, dan fformiwla Barnett, caiff unrhyw newid mewn lefelau gwariant cyhoeddus yn Lloegr eu haddasu i adlewyrchu’r hyn a ddyrennir i Gymru.


Roedd y cyhoeddiadau penodol i Gymru yn cynnwys £55 miliwn ar gyfer bargen Ddinesig a Thwf Canolbarth Cymru, ymrwymiad i ddatblygu ffordd osgoi’r A483 yn y Pant – Llanymynech, pecyn £50 miliwn ar gyfer gwelliannau i hygyrchedd gorsafoedd rheilffordd, yn cynnwys gorsaf yn y Drenewydd, a £15 miliwn ar gyfer S4C, ymrwymwyd £5 biliwn i gefnogi ymestyn band eang gigabit-alluog er budd ardaloedd gwledig, a £2.6 biliwn i gefnogi amddiffynfeydd llifogydd mewn ardaloedd mewn risg.


Drwyddi draw, mae’r gyllideb yn rhoi cyllid ychwanegol o £122 miliwn o refeniw, £239 miliwn o gyfalaf a £3 miliwn o gyfalaf Trafodion Ariannol yn 2020-21. Mae’r swm o gyfalaf ychwanegol sydd ar gael i’w fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru yn 2020-21 yn £140 miliwn.


Galwodd Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Threfnydd y Cynulliad, ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am eglurdeb ar beth mae’r cyhoeddiadau hyn yn ei olygu i Gymru, ac yn neilltuol ar gynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Cronfa Rhannu Ffyniant gan fod cyllid yr Undeb Ewropeaidd i ddod i ben eleni.


Gydag addewid o fwy o gyllid i Gymru, hoffai Cartrefi Cymunedol Cymru yn awr weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar eu haddewid i roi blaenoriaeth i gyllid ychwanegol ar gyfer y Grant Cymorth Tai, sy’n cyllido gwasanaethau hollbwysig i drechu digartrefedd yng Nghymru. Mae hefyd angen mwy o fuddsoddiad i gefnogi cymdeithasau tai i adeiladu 75,000 o gartrefi fforddiadwy di-garbon a chreu 50,000 o swyddi erbyn 2036.