Jump to content

25 Chwefror 2020

Cyhoeddi cyllid ar gyfer dulliau adeiladu modern

Mae Julie James, Gweinidog Tai Cymru, heddiw wedi cyhoeddi strategaeth ar gyfer gweithredu dulliau adeiladu modern, ynghyd â budsoddiad o £45m.

Rydym yn wirioneddol falch i weld fod y strategaeth hon hefyd yn canolbwyntio ar gynnal yr economi sylfaenol yng Nghymru drwy greu swyddi lleol a defnyddio deunyddiau lleol. Mae gan gymdeithasau tai eisoes rôl allweddol wrth ddatblygu cymunedau cynaliadwy. Drwy ddefnyddio dulliau adeiladu modern yn ehangach, gallwn gyflymu ein gweledigaeth Gorwelion Tai i wneud Cymru yn fwy iach a llewyrchus a gyda chysylltiadau gwell.

Dywedodd Bethan Proctor, Rheolwr Polisi a Materion Allanol Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Rydym yn croesawu ymrwymiad heddiw gan Weinidog Tai Cymru i fuddsoddi £45m yn y diwydiant tai modiwlar, mewn ymateb i’r adolygiad o dai fforddiadwy y gwnaethom alw amdano yn 2017. Mae dulliau adeiladu modern yn hyrwyddo codi tai ansawdd da, carbon isel a fforddiadwy yn gyflym ac ar raddfa eang a gyda chymdeithasau tai yn ymroddedig i godi 75,000 o gartrefi newydd erbyn 2036, bydd cyhoeddiad heddiw yn helpu i wireddu hyn.

Rydym yn falch iawn i weld fod y strategaeth hon hefyd yn canolbwyntio ar gynnal yr economi sylfaenol yng Nghymru drwy greu swyddi lleol a defnyddio deunyddiau lleol. Mae eisoes ddymuniad yn y sector tai cymdeithasol i ddefnyddio dulliau adeiladu modern a bydd strategaeth a buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn agor y drysau ar gyfer llawer mwy i ddatblygu dulliau gweithgynhyrchu oddi ar y safle, gan eu helpu i adeiladu cartref iachach a digarbon, gan fynd i’r afael â’r argyfwng mewn tai a newid hinsawdd.”