ASTUDIAETH NEWYDD YN DANGOS BOD Y CYHOEDD YN CEFNOGI MWY O DAI CYMDEITHASOL
Gyda phrinder tai yn cynyddu, dengys ymchwil newydd a gyhoeddir heddiw y byddai mwyafrif pobl Prydain yn cefnogi codi mwy o gartrefi cymdeithasau tai a thai cyngor yn eu hardaloedd.
Er y cafodd bron 2,000 o gartrefi fforddiadwy newydd eu hadeiladu yng Nghymru y llynedd, mae ôl-groniad o angen tai yng Nghymru. Wrth i'r prinder tai fforddiadwy gynyddu, mae'r ymchwil newydd yn awgrymu fod y cyhoedd yn cefnogi codi'r cartrefi sydd eu hangen.
Dengys yr ymchwil gan Ipsos MORI, a lansir heddiw i nodi'r Diwrnod Tai Cenedlaethol bod:
• Dros hanner (58 y cant) y cyhoedd ym Mhrydain yn cefnogi codi mwy o dai cymdeithasol yn eu hardaloedd.
• Dywed 80 y cant o bobl Prydain y dylai tai cymdeithasol fod ar gael i bobl na all fforddio cost rhentu preifat yn ogystal â bod yn rhwyd diogelwch i'r bobl fwyaf bregus.
• Dywedodd mwy na dau allan o dri o bobl Prydain (67 y cant) fod gan dai cymdeithasol rôl bwysig wrth drechu tlodi ym Mhrydain.
Wrth i'r prinder tai cymdeithasol, sydd ar renti is, barhau i fod yn brin mae mwy o bobl yn awr yn rhentu llety preifat drutach er bod cyflogau'n aros yn eu hunfan. Fodd bynnag, dengys y canfyddiadau nad yw'r mwyafrif llethol eisiau i dai cymdeithasol ddod yn rhwyd ddiogelwch ar gyfer y bobl fwyaf bregus yn unig, ond i barhau'n opsiwn ar gyfer unrhyw un ar incwm is na all fforddio rhenti preifat.
Dywed Cartrefi Cymunedol Cymru, un o'r sefydliadau sy'n cefnogi'r Diwrnod Tai, fod cymdeithasau tai yng Nghymru eisoes yn darparu cartrefi fforddiadwy a gwasanaethau i bron ddeg y cant o boblogaeth Cymru.
Meddai Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp Cartrrefi Cymunedol Cymru: "Mae pawb angen cartref gweddus y gallant fforddio byw ynddo a dylem fod yn falch fod tai cymdeithasol ein gwlad yn darparu'n union hynny i filoedd o bobl yng Nghymru.
"Fe wnaethom gyhoeddi'n ddiweddar bod ein haelodau - cymdeithasau tai Cymru - wedi codi bron 2,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn 2013/14. Ond rydym yn wynebu argyfwng tai na ellir ei ddatrys heb gael y cartrefi cywir yn y lleoedd cywir ar bris y gall pobl ei fforddio.
Yn ogystal â brics a morter, mae buddsoddi mewn cartrefi fforddiadwy hefyd yn gweithredu fel sbardun economaidd. Y llynedd gwariodd ein haelodau bron £1bn yn uniongyrchol yn yr economi gan gadw 80% o hynny yng Nghymru. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y Deyrnas Unedig yn y cyfnod cyn yr Etholiad Cyffredinol i Senedd y Deyrnas Unedig, ac yn galw ar yr holl bleidiau gwleidyddol yn yr etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i fuddsoddi mewn mwy o gartrefi fforddiadwy ac ymrwymo i ddod â'r argyfwng tai i ben o fewn cenhedlaeth."
Mae Diwrnod Tai yn ddigwyddiad cenedlaethol ar-lein i ddathlu effaith gadarnhaol tai cymdeithasol ar filoedd o bobl ar draws y Deyrnas Unedig. I gael mwy o wybodaeth a chymryd rhan dilynwch #HousingDay ar twitter.
Stori Jemma
Mae Jemma Bere yn denant tai cymdeithasol ac yn denant aelod o fwrdd Tai Wales & West Housing. Mae'n gweithio i CREW Adfywio Cymru, rhan o Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru.
Cafodd mam Jemma ei lladd mewn damwain car yn Andalucia, Sbaen, yn 2001. Ar ôl yr angladd ym Mhrydain, dychwelodd ei brawd a'i chwaer i Sbaen gyda'u tad a dechrau mynd i'r ysgol yno. Fodd bynnag, daeth eu tad yn gaeth i'r ddiod maes o law ac yn methu gofalu amdanynt ac yn 2005 dywedwyd wrth Jemma fod y plant wedi mynd i ofal gwasanaethau cymdeithasol yn Almeria. Aeth i Sbaen ar unwaith i'w gweld ond nid oedd fawr iawn y gallai wneud. Ar ôl ychydig fisoedd, cafodd alwad ffôn gan yr awdurdodau yn Sbaen yn dweud y byddai'n rhaid rhoi'r plant mewn gofal maeth os na allai rhywun yn y teulu fod yn gyfrifol amdanynt. Ni allent roi unrhyw warant y cedwid y plant gyda'i gilydd nac y byddai'n gallu ymweld â nhw. Gwnaeth Jemma'r penderfyniad yn syth y byddai'n gofalu amdanynt. 24 oed oedd hi, a newydd raddio o'r brifysgol.
Cymerodd ddwy flynedd iddi drafod y fiwrocratiaeth a mynd drwy'r broses fabwysiadu i gael y plant i Brydain ond roedd yn benderfynol a chafodd gymorth gan nifer o ffrindiau allweddol a sefydliadau gyda chydymdeimlad. Daeth â'r plant yn ôl i Brydain ar 15 Gorffennaf 2008, a chawsant aduniad gyda'u mam-gu a'u brawd nad oeddent wedi eu gweld am 7 mlynedd. Nid oedd gan Jemma dŷ nac arian wrth gefn, dim ond y sicrwydd mai dyma'r penderfyniad gorau iddi erioed ei wneud. Cawsant gartref argyfwng i ddechrau ond cawsant gynnig tŷ parhaol gan Tai Wales & West ar ôl ychydig fisoedd. Dywedodd Jemma: "Alla'i ddim disgrifio'r teimlad o sicrwydd a gawsom ganddynt. Roedd y plant wedi arfer cael eu symud o gwmpas, a dim ond pan gawsom y tŷ wnaeth y plant gredu eu bod yma i aros ac roedd y newid ynddynt o hynny ymlaen yn wych i'w weld."
Ychydig o Saesneg oedd gan y plant i ddechrau a buont yn byw ar fudd-daliadau tra'n cael eu traed oddi tanynt. Oherwydd bod yr amgylchiadau'n anarferol, roedd y broses gais yn anodd a buont yn byw ar £90 yr wythnos o gredyd treth plant am y 6 mis cyntaf. Dysgodd Jemma i wneud popeth iddi ei hunan, hyd yn oed siampŵ! Roedd yn gyfnod anodd ond rhoddodd y rhwydi diogelwch a gafwyd drwy dai cymdeithasol a lles ddigon o sicrwydd iddynt ddechrau adeiladu bywyd gyda'i gilydd.
Dywedodd Jemma: "Rwy'n falch iawn i fod yn byw mewn tŷ cymdeithasol ac yn denant aelod o fwrdd fy nghymdeithas tai. Rwyf wrth fy modd i gael cyfle i roi rhywbeth yn ôl a helpu gwneud gwahaniaeth yn y sector.
"Rwy'n cefnogi'r Diwrnod Tai oherwydd y rhoddodd gymorth hanfodol i mi pan credwn nad oedd gen i ddim. Dwi ddim eisiau meddwl lle byddai'r plant a finnau wedi bod heb gyfle am gartref fforddiadwy. Fel tenant tai cymdeithasol, rwy'n gwybod fod fy arian rhent yn mynd tuag at bobl eraill mewn angen a rhoi cyfle iddynt adeiladu eu bywydau yn union fel y gwnaeth i fi."
DIWEDD
I gael mwy o wybodaeth a chyfweliadau, cysylltwch â thîm cyfryngau Cartrefi Cymunedol Cymru ar : 02920 67 4821.
NODIADAU I'R GOLYGYDD:
• Cynhaliodd Ipsos MORI 1,997 cyfweliad wyneb i wyneb yn eu cartrefi gydag oedolion 16+ oed ym Mhrydain Fawr rhwng 24 Hydref a 2 Tachwedd 2014 ar ran consortiwm o gymdeithasau tai ac yn cynnwys Sefydliad Joseph Rowntree. Cafodd data ei bwyso i adlewyrchu'r boblogaeth oedolion yn y Deyrnas Unedig. Mae manylion llawn ar gael yn www.ipsos-mori.com . Roedd 5% o'r ymatebwyr o Gymru.
• Gofynnwyd nifer o gwestiynau i ymatebwyr am rentu/tai cymdeithasol a ddisgrifiwyd fel rhentu gan gyngor lleol neu gymdeithas tai.
• Mae tai cymdeithasol yn darparu cartrefi mwy fforddiadwy ar gyfer teuluoedd cyffredin yn ogystal â chymorth i bobl hŷn a phobl gydag anableddau. Yn ogystal â thai, maent hefyd yn helpu miloedd o bobl i wella eu hiechyd, sgiliau a chyfleoedd swyddi.
Mae cefnogwyr ymchwil Diwrnod Tai yn cynnwys: Cartrefi Cymunedol Cymru, Tai Cymunedol Rhondda Cynon Taf, Tai Sir Fynwy, Sefydliad Joseph Rowntree Placeshapers, Halton Housing Trust, Symphony Housing Group, Regenda, Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, Yorkshire Housing, Sixtowns Housing, South Liverpool Housing Association, Orbit Group, Progress Housing, Midland Heart, Riverside Housing, Yorkshire Coast Homes, Ffederasiwn Tai Cenedlaethol, Thames Valley Housing, Places for People, Affinity Sutton, City West Housing, Helena Partnerships, Moat, Knightstone Housing, Northwards Manchester Housing, Staffordshire Housing Association, Accent Group.
Cartrefi Cymunedol Cymru yw corff aelodaeth cymdeithasau tai yng Nghymru. Mae ein haelodau'n darparu cartrefi a gwasanaethau tai i ddeg y cant o'r boblogaeth. Bob blwyddyn maent yn buddsoddi mewn amrywiaeth eang o brosiectau cymdogaeth sy'n helpu i greu cymunedau cryf a llewyrchus.
I gael mwy o wybodaeth ewch i: www.chcymru.org.uk