Jump to content

30 Ionawr 2019

CHC yn ymateb i adroddiad anghenion tai Llywodraeth Cymru

Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw wedi dangos y bydd angen cyfartaledd o 8,300 uned tai ychwanegol bob blwyddyn yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.

Mae'r adroddiad, sy'n seiliedig ar ddull newydd o gyfrif yr angen a'r galw am dai yng Nghymru, yn dangos fod nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn brin ar draws y wlad.

Fe wnaethom gomisiynu Beaufort Research ar gyfer ein hadroddiad diweddaraf ar effaith economaidd-gymdeithasol, sy'n dangos y rhagwelir y bydd cymdeithasau tai Cymru yn darparu mwy na 3,000 o gartrefi yn 2018/19. Ynghyd â'r 4,400 o gartrefi a ddarparwyd gan gymdeithasau tai Cymru dros y ddwy flynedd diwethaf, mae hyn yn rhoi'r sector ymhell ar y ffordd i sicrhau fod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei tharged o adeiladu 20,000 o gartrefi erbyn 2021, fel y cytunwyd yn ein cytundeb tai fforddiadwy.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Mae adroddiad heddiw'n dangos fod her sylweddol yn parhau i ddarparu'r cartrefi mae Cymru eu hangen yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n uchelgais gan gymdeithasau tai uchelgais i 75,000 o gartrefi erbyn 2036, a gyda chefnogaeth barhaus a chyson gan Lywodraeth Cymru, rydym yn hyderus y gallwn wireddu'r uchelgais honno.

Gyda disgwyl i'r Adolygiad o Dai Fforddiadwy wneud argymhellion i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ym mis Ebrill, mae gennym gyfle unigryw i sicrhau fod yr amodau'n iawn i gyflawni'r her a nodir yn adroddiad heddiw a chyflawni uchelgais a gaiff ei rhannu o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb."