CHC yn galw am bartneriaeth buddsoddi unwaith mewn cenhedlaeth gyda Llywodraeth Cymru
Dengys ymchwil newydd a gyhoeddir heddiw (4 Mawrth) y gallai cymdeithasau tai Cymru chwistrellu biliynau i’r economi dros y 16 mlynedd nesaf, gyda Llywodraeth Cymru’n cael ei hannog i roi blaenoriaeth i dai a gweithio gyda chymdeithasau tai i fuddsoddi £11.7 biliwn ar y cyd erbyn 2036.
Rydym wedi comisiynu ymchwil sydd yn dangos o gael buddsoddiad o dros £11 biliwn y gellid adeiladu 75,000 o gartrefi di-garbon erbyn 2036, gan gael effaith enfawr ar yr argyfwng tai a chreu 50,000 o swyddi a chynhyrchu mwy na £23.2 biliwn i economi Cymru dros 16 mlynedd.
Dangoswyd dro ar ôl tro bod cymdeithasau tai yn barod i adeiladu’r cartrefi fforddiadwy, ansawdd da y mae gan Gymru angen mor enbyd amdanynt, ac rydym wedi ymrwymo i ddyblu effaith unrhyw fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i sicrhau am bob £1 a fuddsoddir y bydd cymdeithasau tai yn cyfateb hynny.
I ateb yr angen am dai yng Nghymru a mynd i’r afael â’r argyfwng tai, gwyddom ein bod angen dros 4,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn. Ers 2010 mae cymdeithasau tai Cymru wedi darparu 21,000 o gartrefi newydd ac maent yn awr yn galw am fwy o uchelgais i barhau i adeiladu tai fforddiadwy ansawdd da i bawb.
Yn ychwanegol, erbyn 2036, gellid creu 19,500 o gyfleoedd hyfforddiant a llu o swyddi llawn-amser a rhan-amser newydd mewn adeiladu, cynnal a chadw a rheolaeth, gyda’r sector yn cyflogi bron 16,000 o staff yn uniongyrchol ac â rôl allweddol wrth gefnogi 50,000 o swyddi ar draws gweddill Cymru.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Gwyddom fod cymdeithasau tai yng Nghymru eisoes yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r economi, ac rydym ymhell ar y trywydd i gyflawni targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi erbyn 2021. Mae’r cartrefi ansawdd uchel hyn eisoes wedi creu miliynau o swyddi, gwella llesiant pobl a gostwng biliau tanwydd ar gyfer tenantiaid.
Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn cydnabod mai dyma’r amser am fwy o uchelgais gan lywodraethau dilynol yng Nghymru yn y dyfodol. Gall tai cymdeithasol fod yn allwedd i ddatgloi mwy o ffyniant ar gyfer cymunedau ar draws Cymru, a rydym yn barod i gynyddu ein partneriaeth yn enfawr gyda’r llywodraeth hon a llywodraethau’r dyfodol yng Nghymru i ddatrys yr argyfwng tai a rhoi hwb sylweddol i economi Cymru.”