Jump to content

11 Medi 2020

Iechyd meddwl a llesiant yn ystod pandemig

Iechyd meddwl a llesiant yn ystod pandemig
Helen White yw Prif Weithredydd Tai Taf, a hi fydd Cadeirydd ein Cynhadledd Iechyd Meddwl a Llesiant gyntaf ym mis Hydref. Yma mae’n siarad am yr effaith a gafodd yr argyfwng coronafeirws ar ei llesiant meddwl ei hun a hefyd ei chydweithwyr.


“Byddwn yn dweud celwydd pe dywedwn mai iechyd meddwl a llesiant fy nghydweithwyr oedd fy mhryder cyntaf pan wnaethom gau’r swyddfa ar noswaith 22 Mawrth 2020. A bod yn hollol onest, roeddwn yn ceisio dygymod â’r syniad ein bod yn mynd o fod yn sefydliad seiliedig mewn swyddfa lle bu gweithio gartref yn eithriad i un lle’r oedd bron fy holl gydweithwyr yn eistedd tu ôl i’w bwrdd cegin! Sut yn y byd fyddai hynny yn gweithio? Sut fydden ni’n gwneud yn siŵr y gallem ddal i ddarparu gwasanaethau i denantiaid? Bu’n llethol ar adegau ac mae wedi fy ngwthio hyd fy eithaf!


Fel y bu hi, mynd i gyfnod clo oedd y darn rhwydd! Rwy’n meddwl nad oedd neb ohonom wedi gwerthfawrogi’n llawn gymaint o effaith y byddai cael ein gorfodi i normal newydd yn ei gael ar ein hiechyd meddwl a’n llesiant. Roedd yn anodd dianc rhag byd o bryder wrth i ni feddwl am ein hiechyd ein hunain a’n teuluoedd, cyfeillion ac anwyliaid, ac edrych ar y newyddion am y cynnydd yn nifer y marwolaethau gyda braw ac ymdeimlad o ofn am y dyfodol.


Mae fy nghydweithwyr yn Taf wedi bod yn hollol anhygoel – ond gwn na fu’n rhwydd ac mae llawer ohonom wedi ei chael yn anodd yn feddyliol. Rwyf wedi gwneud fy ngorau i gyfathrebu’n aml, gan wneud yn siŵr fod pawb yn gwybod ei fod yn achos o wneud yr hyn a fedrwch, pryd y medrwch ac os oes yw’n rhaid i rywbeth roi mai gwaith ddylai hynny fod. Mae cydnabod a siarad yn agored am heriau iechyd meddwl y chwe mis diwethaf wedi rhoi’r cam pwysig cyntaf wrth fod yn rhagweithiol a sicrhau fod y gefnogaeth gywir ar gael. Nid oes angen gwingo rhag ein pryderon a’n bregusrwydd ein hunain, yn wir, mae’n hanfodol rhannu ein profiad personol os ydym i gefnogi ein gilydd a chreu amgylchedd lle mae’n iawn i beidio bod yn iawn a bod gofyn am help yn opsiwn bob amser.


Rwy’n sicr y bydd y gynhadledd yn ffordd ardderchog o ddod ynghyd â straeon personol ynghyd â syniadau ymarferol y gallwn fynd â nhw yn ôl i’n sefydliadau i sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi ein hiechyd meddwl ein hunain a hefyd iechyd meddwl ein cydweithwyr.”


Archebwch eich lle yn y Gynhadledd Iechyd Meddwl a Llesiant yma.