Jump to content

03 Ebrill 2020

Cefnogi tenantiaid drwy galedi ariannol

Cefnogi tenantiaid drwy galedi ariannol
Ychydig dros fis yn ôl, dechreuodd fy nghydweithwyr a finnau ein paratoadau ar gyfer etholiadau’r flwyddyn nesaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a’n hymgyrch i ganolbwyntio ar y tri mater mawr oedd yn wynebu Cymru. Roeddem eisiau siarad am sut y gall cymdeithasau tai chwarae eu rhan wrth drechu digartrefedd, atal chwalfa hinsawdd a gostwng anghydraddoldeb iechyd. Ychydig a wyddem pa mor gyflym y byddai’n hymdeimlad o flaenoriaethau yn cael ei herio gan y pandemig byd-eang a ddaeth i’r amlwg.


Gyda chymdeithasau tai ledled Cymru yn darparu mwy na 150,000 o gartrefi a gwasanaethau gofal – llawer ohonynt i aelodau mwyaf bregus cymdeithas – gwelsom y canlyniadau trist dros ychydig wythnosau diwethaf y feirws yma. Er bod llawer o deuluoedd sy’n byw yng nghartrefi ein haelodau wedi gorfod delio gyda thrychineb colli anwyliaid, rydym hefyd wedi gweld tenantiaid yn colli eu swyddi neu golli eu mynediad i’w cymunedau a gwasanaethau oherwydd mesurau ymbellhau cymdeithasol ac ynysu.


Mae hyn wedi golygu y bu’n rhaid i gymdeithasau tai addasu. Er eu bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau yn y cyfnod mwyaf heriol, canfod ffyrdd newydd i weithio a cheisio sicrhau hyfywedd gwasanaethau eraill wrth galon ein cymunedau, byddai’n rhwydd teimlo heddiw eu bod ar reng flaen y rhyfel yn erbyn y feirws yma. Ond y gwir yw mai tenantiaid tai cymdeithasol sydd fwyaf tebygol o deimlo’r baich, nid dim ond y feirws ei hunan, ond yr effaith economaidd hefyd.


Dyna pam fy mod mor falch fod cymdeithasau tai wedi dod ynghyd gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i’w gwneud yn glir na fyddwn yn troi neb allan o gartref cymdeithasol yng Nghymru oherwydd caledi ariannol yn sgil COVID-19.


Ymhellach, rydym eisiau ei gwneud yn hollol glir y caiff tenantiaid sy’n dioddef caledi ariannol eu cefnogi’n gyson. Mae cymdeithasau tai wedi uno gyda llywodraeth leol heddiw i wneud ymrwymiad clir i denantiaid drwy gydol y cyfnod hwn, gan ymrwymo y byddant:
  • yn eich cadw’n ddiogel a saff yn eich cartref

  • yn eich helpu i gael y gefnogaeth ariannol rydych ei hangen

  • yma i’ch cefnogi a chanfod datrysiadau os ydych yn cael trafferth i dalu eich rhent

  • yn gwneud popeth a allant i gefnogi eich llesiant


Mae’r rhain yn egwyddorion lefel uchel y gobeithiwn fydd yn gosod disgwyliadau gwirioneddol glir o’r hyn y gall tenant tai cymdeithasol yng Nghymru ei ddisgwyl mewn byd ansicr. Awn ymhellach hefyd, i sefydlu’r egwyddorion hyn mewn protocol clir fydd ar gael yn gyhoeddus i bob landlord.


Bydd pob cymdeithas tai (ac awdurdod lleol) yn cyflwyno gwahanol fathau o gefnogaeth ond mae pawb ohonom (neu bob cymdeithas tai) yn unedig wrth weithio gyda a chefnogi tenantiaid sy’n wynebu anhawster ariannol i dalu eu rhent. Gwneir hyn ar sail unigol, gan sicrhau y caiff y gefnogaeth ei thargedu a’i bod yn addas ar gyfer pob tenant sydd ei angen.


Cefais hefyd fy nharo gan y ffordd mae cymdeithasau tai yn addasu eu gwasanaethau i gefnogi tenantiaid a hefyd y gymuned ehangach drwy gydol y cyfnod hwn. Mae Cymdeithas Tai Newydd, er enghraifft, wedi rhoi eu prosiect HAPI gwych ar-lein yn Rhondda Cynon Taf, gyda sesiynau canu cymunedol a dosbarthiadau ymarfer yn cadw pobl yn egnïol. A gyda rolau staff yn newid yn ystod y cyfyngiadau ar symud, gwelsom gymdeithasau’n adleoli eu staff i gynnig galwadau i rai a all fod yn dioddef unigrwydd ac arwahanrwydd yn ystod y cyfnod hwn hefyd. Mae Cartrefi Cymunedol Tai Calon yn un o’r llawer a ddewisodd gefnogi eu banc bwyd lleol, gan adleoli staff ac adnoddau i helpu eu gwasanaethau hanfodol i gyrraedd y mwyaf bregus.


Mae coronafeirws wedi ein herio mewn ffyrdd newydd, sy’n newid yn gyflym O safbwynt polisi, bu ehangder y problemau a pha mor gyflym y bu’n rhaid i ni ddelio gyda nhw yn ddybryd, ond nid yw’n cymharu â’r gwaith y mae cymdeithasau tai yn gorfod ei wneud ar lawr gwlad.


Gwyddom fod yr ansicrwydd yn debygol o barhau am fisoedd lawer a gobeithiaf y bydd cynnig clir cymdeithasau tai i denantiaid yn sicrhau y gall y rhai sydd fwyaf ei angen ganfod eu ffordd drwy’r cyfnod ansicr hwn gydag ychydig mwy o sicrwydd.


Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru


Bydd cymdeithasau tai yng Nghymru yn proffilio eu gwaith i gefnogi tenantiaid yng Nghymru drwy ymgyrch newydd ‘Gyda Chi’. Dilynwch yr ymgyrch yma drwy dudalen Twitter CHC @CHCymru a chwilio am hashnod #gydachi #withyou