Agor Drysau i Niwroamrywiaeth

Sut ydyn ni’n cynyddu dealltwriaeth a hyder ein cydweithwyr am niwroamrywiaeth i wella ymddiriedaeth a chyswllt gyda chwsmeriaid
gan Jodie Warren, Cydlynydd Dysgu a Datblygu, Cartrefi Cymunedol Bron Afon
Yn Bron Afon, gwyddom fod pob cwsmer yn dod â chefndir, safbwynt a set o anghenion unigryw i’n cymuned a’i bod yn gyfrifoldeb arnom i wneud yn siŵr y caiff eu hanghenion eu diwallu gyda pharch a dealltwriaeth. Dyna pam ein bod yn cymryd camau sylweddol i wella’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu, yn arbennig gyda’n tenantiaid niwroamrywiol, gyda’n prosiect ‘Agor Drysau i Niwroamrywiaeth’.
Pam fod Niwroamrywiaeth yn bwysig
Mae’n rhwydd meddwl am gyfathrebu fel datrysiad yr un fath i bawb. Fe wnaethom sylwi ar gynnydd yn nifer y cwsmeriaid nad oedd yn cysylltu â ni ac ar ôl ymchwilio, fe wnaethom ddarganfod fod rhai o’n cwsmeriaid yn ei chael yn anodd cysylltu gyda ni gan nad oedd ein dulliau arferol bob amser yn gweddu i’w hanghenion.
Fe wnaeth sylweddoli hyn ein harwain i edrych yn agosach ar niwroamrywiaeth a sut mae’n llunio’r ffordd mae pobl yn rhyngweithio gyda’n gwasanaethau.
Ar gyfer cwsmeriaid gall rhai prosesau, tebyg i drefnu apwyntiadau neu ddeall gwybodaeth ysgrifenedig, fod yn heriol mewn ffyrdd nad ydynt bob amser yn amlwg. Pan fyddwn yn deall y gwahaniaethau hyn, gallwn wneud ein gwasanaethau yn fwy hygyrch a chroesawgar i bawb.
Dywedodd Jo Blosse, ein Rheolwr Tai ac arweinydd y prosiect, “Rydym wedi gweld gwahaniaeth yn barod a dydyn ni ddim wedi dechrau cyflwyno’r prosiect yn iawn eto! Mae un o fy nhîm yn ymwneud â’r prosiect yma ac wedi gwneud cynnydd gwych yn gweithio gyda chwsmer a deimlai nad oedd yn cael ei ddeall. Fe wnaeth rhoi amser i ddeall anghenion y cwsmer a chwblhau hyfforddiant ar niwroamrywiaeth greu sylfaen a dysgu gwell, sy’n golygu i’r ymweliad nesaf gyda’r cwsmer fynd yn wych. Mae ymddiriedaeth y cwsmer wedi cynyddu ac mae mewn cyswllt yn rheolaidd. Dychmygwch yr effaith unwaith y caiff y cynllun hyfforddi llawn a chynlluniau eraill eu hymestyn. Mae’n gyffrous meddwl beth sydd i ddod.”
Ein Dull
Nid oes gennym fwriad o ddiagnosio neu labelu unrhyw un. Yr hyn sy’n bwysig i ni yw deall ein cwsmeriaid ‘angen eu cyrraedd’ yn hytrach na meddwl amdanynt fel ‘anodd eu cyrraedd’. Rydym yn buddsoddi mewn hyfforddiant a chynyddu sgiliau ein cydweithwyr drwy gynyddu ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth a grymuso timau i gynnig gwasanaeth mwy hyblyg a chefnogol sy’n ateb anghenion cwsmeriaid. Credwn y bydd y dull hwn yn ei gwneud yn rhwydd i’n timau ymgysylltu ac y bydd ein cwsmeriaid yn teimlo ein bod ar eu hochr, beth bynnag yw eu hamgylchiadau.

Buddion i bawb
Mae cynllunio gwasanaethau gan ystyried niwroamrywiaeth yn cael effaith gadarnhaol i bawb. Mae system neu broses sy’n rhwyddach i unigolion niwroamrywiol ei dilyn yn gliriach ac yn haws i bawb arall ei defnyddio. Drwy wneud newidiadau i’n dull gobeithiwn y gallwn gynyddu ymddiriedaeth, gwella cyfathrebu a chreu ymdeimlad cryfach o berthyn i’n holl gwsmeriaid.
Mae codi ymwybyddiaeth a rhoi mwy o gefnogaeth i’n cwsmeriaid yn eu cadw yng nghanol ein holl waith. Mae deall anghenion amrywiol, fel deilliant allweddol ar gyfer y prosiect hwn, yn rhywbeth yr ydym yn falch iawn i fod yn gweithio tuag ato.
Edrych i’r dyfodol
Rydym eisoes yn rhoi’r hyn a ddysgwyd hyd yma ar waith ac yn edrych i’r dyfodol am sut y gall y ddealltwriaeth yma fod o fudd i rannau eraill o’n sefydliad. Mae hyn yn cynnwys recriwtio, gwneud gofod a cyfweld yn fwy croesawgar i ymgeiswyr niwroamrywiol a chreu fideos croeso sy’n dangos ein swyddfa ac opsiynau parcio. Ein nod yw helpu’r rhai sy’n gwerthfawrogi cynllunio ymlaen llaw i deimlo’n fwy cysurus pan fyddant yn ymweld â ni.
Rydym yn dal yn y dyddiau cynnar, ond mae’r dysgu eisoes wedi dechrau ar gyfer tîm y prosiect. Rydym yn ymroddedig i ddysgu a gwella parhaus, ac yn awyddus y caiff lleisiau eu clywed ac y caiff anghenion eu deall. Rydym yn cysylltu gydag arbenigwyr yn y gymuned am eu cyngor a chymorth.
Os ydych chi wedi arwain cynlluniau tebyg neu os oes gennych ddealltwriaeth werthfawr i’w rhannu, byddem wrth ein bodd clywed gennych.