Adroddiad cyllid yn dangos sector tai cryf yng Nghymru
Mae'r sector tai yng Nghymru yn edrych yn gryf, iach a chynhyrchiol gyda chanlyniadau ariannol cadarnhaol ar gyfer 2017.
Mae adroddiad ariannol Cyfrifon Cynhwysfawr yn deillio o adroddiadau ariannol archwiliedig y 33 cymdeithas tai fwyaf. Mae'r adroddiad yn cyflwyno darlun o sector cadarn, yn dangos twf mewn trosiant a mantolenni a pharhau i gynhyrchu gwargedion sydd eu hangen i gefnogi adeilad cartrefi newydd.
Mae cymdeithasau tai Cymru hefyd yn parhau i wella cartrefi presennol drwy fuddsoddi'n helaeth mewn atgyweiriadau sylweddol i sicrhau bod tai o ansawdd uchel.
Mae'r adroddiad, sydd ar gael yn llawn yma yn dangos:
- Bod y sector yn awr yn berchen ac yn rheoli 160,636 o gartrefi (mae cymdeithasau tai yn darparu 62% o gyfanswm stoc tai cymdeithasol yng Nghymru)
- Bod aelodau CHC wedi gwario £1.1bn yn uniongyrchol, gyda 89% o hynny wedi'i gadw yng Nghymru. Mae'r effaith cyflenwr anuniongyrchol wrth ochr hyn yn golygu fod cyfanswm y cyfraniad i'r economi bron yn £2bn
- Mae'n fwy na dim ond tai - cynyddodd cyfraniad y sector i gyflogaeth ymhellach yn 2016/17. Cafodd dros 10,000 o swyddi cyfwerth ag amser-llawn eu cyflogi'n uniongyrchol gan y sector ac, am bob swydd uniongyrchol a ddarparwyd, cafodd 1.5 o swyddi eu cefnogi mewn man arall yn economi Cymru yn gyfartal â dros 25,000 o swyddi
- Roedd trosiant am y flwyddyn yn £908m, cynnydd o £3m ar 2016
- Roedd gwarged gweithredu am y flwyddyn yn £193m (o gymharu gyda £171m yn 2016) gyda gwarged net, ar ôl taliadau llog a chyn treth, o £59m (2016: £79m)
- Cynyddu benthyciadau - mae cyfanswm lefel y ddyled yn ar yn £2.7bn, cynnydd o £2.5bn yn 2016
- Mae lefelau cyfalaf a chronfeydd wrth gefn yn awr yn £1.07bn o gymharu gyda £1bn yn 2016
Mae'r ddogfen yn dilyn Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i reoleiddiad y sector drwy gydol 2016, a dyma'r Cyfrifon Cynhwysfawr cyntaf i gyflwyno'r Disgwyliadau Rheoleiddiol a'r Papur Risg a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Stuart Ropke, prif weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: “Mae dogfen Cyfrifon Cyhoeddus yn dangos sector gyda hanes clir o gyflenwi, ac uchelgais cynyddol i ddarparu'r cartrefi mae Cymru eu hangen i gartref da fod yn hawl sylfaenol i bawb.
“Mae gan gymdeithasau tai rôl economaidd allweddol ac yn croesawu datrysiadau creadigol i ysgogi ffrydiau incwm fel bod cartrefi'n parhau i fod yn fforddiadwy, o ansawdd da ac yn diwallu anghenion y gymuned leol.
“Dim ond un agwedd yw tai. Mae cymdeithasau tenantiaid yn helpu tenantiaid i arwain bywyd iach, annibynnol a bodlon adref ac o fewn y gymuned, drwy adfywio ardaloedd, creu swyddi a rhoi'r gefnogaeth gywir, megis cyngor ar drin arian.
“Edrychwn ymlaen at gyfrannu at yr adolygiad annibynnol o bolisi tai i gynyddu nifer y cartrefi a adeiladwn a chyflawni ein nod o adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036.”