Jump to content

26 Chwefror 2020

A all Dulliau Modern o Adeiladu ddatrys argyfwng yr hinsawdd a’r argyfwng tai?

A all Dulliau Modern o Adeiladu ddatrys argyfwng yr hinsawdd a’r argyfwng tai?
Mae’n debyg nad yw’r rhai sy’n ddigon hen i gofio tai preffab y cyfnod yn dilyn y rhyfel yn teimlo’n or-frwdfrydig eu bod yn dychwelyd. Roedd pa mor gyflym a’r nifer fawr ohonynt a gafodd eu hadeiladu yn golygu fod ansawdd y tai yn weddol isel, a dim ond ychydig o’r cannoedd a miloedd a adeiladwyd sy’n dal i sefyll heddiw.


Mae amser, ac yn bwysicaf dechnoleg, wedi symud ymlaen ac yn hytrach na mynd ati’n unig i ddatrys argyfwng tai fel a wnaed yn y 1940au, gall dulliau modern o adeiladu yn awr ddarparu adeiladau carbon isel a dim carbon fydd yn gweithio tuag at ddileu tlodi tanwydd a gostwng allyriadau carbon.


Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn cydnabod manteision dulliau modern o adeiladu ac mae rhai eisoes wedi dechrau datblygu eu rhaglenni eu hunain ar gyfer hyn. Wedi’i alluogi gan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru, y llynedd sefydlodd Cartrefi Conwy ffatri ‘tai modwlar’ i gynhyrchu cartrefi ynni isel gyda chostau rhedeg o ddim ond £200 y flwyddyn. Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a’r prinder tai, bydd y cartrefi newydd hyn hefyd yn golygu y gall tenantiaid gadw’n gynnes yn fforddiadwy a bydd y gymuned yn cael budd o swyddi a chyfleoedd hyfforddi newydd.


Yn Ne Cymru, mae Cymoedd i Arfordir wedi gorffen adeiladu tai pâr gyda’r gosodiadau trydan a gaiff eu dodi ynddynt ymlaen llaw yn eu ffatri yn Mynydd Cynffig ac wedyn eu dosbarthu i’r safle. Bydd preswylwyr yn cael budd o filiau ynni isel a chartrefi cynhesach, gan eu galluogi i fyw’n gysurus a fforddiadwy.


Yr wythnos hon cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Gweithgynhyrchu Oddi ar y Safle ar gyfer Cymru sy’n anelu i ‘ailddychmygu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru’. Yn ogystal â chydnabod y gallu i weithgynhyrchu oddi ar y safle fod â rôl allweddol mewn cartrefi iachach a datgarboneiddio, mae hefyd yn siarad am ddull gweithredu ‘Cymreig Gyntaf’ lle caiff deunyddiau a chydrannau a ddefnyddir mewn gweithgynhyrchu ffwrdd o’r safle eu cyrchu’n lleol yng Nghymru, a lle mae ymyriadau’r llywodraeth yn helpu annog y farchnad i ddatblygu cadwyni cyflenwi, ffatrïoedd a chanolfannau datblygu sgiliau. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl diwallu anghenion y genhedlaeth nesaf o dai cymdeithasol.


Ynghyd â chyhoeddi strategaeth, fe wnaeth Julie James y Gweinidog Tai hefyd gyhoeddi £45 miliwn o fuddsoddiad yn y diwydiant tai modwlar yng Nghymru. Bydd hyn yn agor y drysau i lawer mwy o gymdeithasau tai ddatblygu dulliau gweithgynhyrchu oddi ar y safle, gan helpu i adeiladu cartrefi iachach ac effeithiol o ran ynni sy’n barhaol a hefyd yn fforddiadwy.


Mae cymdeithasau tai eisoes yn gweithredu fel sefydliadau angor o fewn eu cymunedau. Bydd medru defnyddio dulliau modern o adeiladu a gweithgynhyrchu oddi ar y safle yn eu galluogi i greu mwy o swyddi lleol a defnyddio mwy o ddeunyddiau lleol, gan adeiladu o ddifri ar yr economi sylfaen.


Felly a all dulliau modern o adeiladu a gweithgynhyrchu oddi ar y safle ddatys yr argyfwng hinsawdd a thai? Efallai nid datrys, ond yn sicr helpu. Mae’r dulliau hyn yn creu cyfleoedd gwych i adeiladu cartref carbon isel ansawdd uchel a fforddiadwy yn gyflym ac ar raddfa eang.