Jump to content

Cynhadleddau

Yn gryno

Mae ein cynadleddau yn denu cannoedd o staff o blith cymdeithasau tai Cymru a thu hwnt. Cânt eu datblygu mewn cysylltiad â’r sector i sicrhau eu bod yn berthnasol ac amserol.

  • Cynhadledd Llywodraethiant CHC 2024
    Cynadleddau 2 days voco St David's Hotel & Spa, Cardiff Bay
    Mawrth 19, 2024 @ 9:30yb

    Cynhadledd Llywodraethiant CHC 2024

    Byw ein diben creiddiol

    Mae ein Cynhadledd Llywodraethiant flynyddol bob amser yn rhoi cyfle i arweinwyr yn ein sector gymryd cam yn ôl, myfyrio ac ystyried y newidiadau sydd i ddod.

    Cynhelir cynhadledd llywodraethiant 2024 ar 19 a 20 Mawrth 2024 a bydd ei ffocws ar sut y gall arweinyddiaeth, a seiliwyd ar systemau llywodraethiant a diwylliant effeithiol, fod yn sbardun i’ch sefydliad i wneud y gwahaniaeth mwyaf i denantiaid a’r cymunedau yr ydych yn gweithio ynddynt.

    Gwyddom fod heriau lluosog a chymhleth, sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, yn wynebu eich tenantiaid a’ch sefydliad. Bydd y digwyddiad yn rhoi amser a lle i ddathlu y llu o ddatrysiadau a chyfleoedd o fewn y sector ac ymhellach i ffwrdd ac ystyried sut y gallwch gynyddu eich heffaith i’r eithaf.

    Bydd tocynnau ar gael yn y dyfodol agos.