Beverley Davies
Arweinydd Llywodraethu a Gweithrediadau
Bev yw Arweinydd Llywodraethu a Gweithrediadau, lle mae’n gyfrifol am sicrhau fod y sefydliad yn cydymffurfio’n llawn gyda chyfreithiau a rheoliadau. Fel Ysgrifennydd Cwnni a Swyddog Diogelu Data, mae’n goruchwylio llywodraethiant corfforaethol effeithlon, gan sicrhau fod y sefydliad yn cynnal safonau uchel. Mae ganddi gefndir mewn cefnogi prosiectau cymunedol ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus ac elusennol – yn fwyaf diweddar gydag elusen byw â chymorth. Mae Beverley yn ymroddedig i yrru newid cadarnhaol ac ystyrlon yn y cymunedau a wasanaethwn.