Jump to content

Gofal a Chymorth

Yn gryno

Mae cymdeithasau tai yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i bobl sydd angen gofal a chymorth yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau gofal cymdeithasol a reoleiddir, fel cartrefi gofal. Maen nhw hefyd yn darparu llety hygyrch sy’n ddewis gwahanol i leoliadau gofal ffurfiol wrth i anghenion pobl newid, ac mae’n anelu at hyrwyddo annibyniaeth am cyn hired â phosibl, fel Gofal Ychwanegol a thai gwarchod.

Mae’r pwysau sydd ar wasanaethau gofal cymdeithasol yn hysbys. Trwy ein gwaith ar ofal a chymorth, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r llywodraeth, comisiynwyr a darparwyr sy’n bartneriaid i geisio ymdrin â’r heriau sylweddol sy’n wynebu’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru ac i hyrwyddo cyfraniad cymdeithasau tai fel darparwyr gofal a chymorth nid er elw, sy’n rhoi gwerth cymdeithasol.

Sut yr ydym yn datblygu’r maes hwn o’n gwaith

Ein cymuned aelodau Gofal a Chymorth yw’r prif le ar gyfer dynodi blaenoriaethau aelodau, ac rydym wedi defnyddio grwpiau tasg a gorffen penodol i ddatblygu ein safiad polisi. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr darparwyr a chomisiynwyr trwy’r Fforwm Darparwyr Cenedlaethol a’r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr darparwyr a chomisiynwyr trwy’r Fforwm Darparwyr Cenedlaethol a’r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol. Rydym hefyd yn aelodau o weithgorau amrywiol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygu polisïau, gan gynnwys y Grŵp Cyfeirio Ariannu Gofal Cymdeithasol Covid-19.

Ein blaenoriaethau presennol ar ran cymdeithasau tai yw:

  • Cyllid teg, cynaliadwy i’r sector gofal cymdeithasol
  • Gwelliannau i bolisïau ac ymarfer comisiynu.

Cyhoeddiadau ac adnoddau allweddol

Crynodeb llawn
Sarah Scotcher

Gyda phwy i siarad...

Sarah Scotcher