Jump to content

Cynghorydd Materion Cyhoeddus a Pholisi

Cartrefi Cymunedol Cymru yw llais cymdeithasau tai yng Nghymru.

Mae gennym dîm polisi deinamig sy’n cwmpasu ystod o feysydd, o ddatblygu cartrefi newydd i gymorth ar gyfer pobl agored i niwed.

Rydym yn gweithio ar y cyd ac yn hyblyg i ateb anghenion amrywiol ein haelodau. Byddwch yn adrodd i’r Pennaeth Polisi a Materion Allanol a gallech fod yn rheolwr llinell staff o fewn y tîm.

Rydym yn edrych am Cynghorydd Materion Cyhoeddus a Pholisi medrus ac ymroddedig i gefnogi timau sy’n gweithio gyda’n haelodau a’r cyhoedd. Mae’r swydd yn allweddol wrth gyflwyno prosiectau a gwasanaethau integredig drwy gyfathrebu effeithiol a digwyddiadau sy’n gwneud argraff.

Am y Rôl

Ydych chi wedi ymgysylltu yn wleidyddol, yn wych am feithrin cysylltiadau ac yn angerddol am wneud i newid cadarnhaol ddigwydd? Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) yn edrych am Gynghorydd Materion Cyhoeddus a Pholisi i fod â rhan sylfaenol wrth lunio dyfodol tai cymdeithasol yng Nghymru.

Yn y swydd newydd hon, byddwch yn cydlynu gweithgaredd materion cyhoeddus CHC, meithrin cysylltiadau ymddiriedus ar draws y sbectrwm gwleidyddol a gyrru newid polisi ystyrlon i gefnogi cymdeithasau tai i gyflawni eu nodau. Gydag etholiadau i Senedd Cymru y flwyddyn nesaf, ac ehangu’r Senedd, mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â’n tîm talentog, creadigol ac angerddol. Os oes gennych ddealltwriaeth graff o wleidyddiaeth Cymru a hanes cryf o sicrhau newid polisi cadarnhaol drwy ymgyrchu a materion cyhoeddus, mae’r swydd hon yn cynnig cyfle cyffrous i gael dylanwad enfawr.

Rydym yn edrych am gyfathrebydd rhagweithiol a chwaraewr tîm sy’n ffynnu mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym, a all ddadansoddi heriau polisi cymhleth a’u trosi yn ymgyrchoedd effeithlon dros newid. Byddwch yn flaenllaw wrth sicrhau fod tai yn parhau yn flaenoriaeth ar draws y pleidiau. Bydd eich gallu i ymgysylltu â rhanddeiliaid, cydweithio ar draws timau a llywio tirluniau polisi cymhleth yn ganolog wrth yrru newid. Os ydych yn barod i ddefnyddio eich arbenigedd i ddylanwadu ar wneuthurwyr polisi a datblygu partneriaethau cryf, dyma’r swydd i chi!

I gael gwybod mwy, cymerwch olwg ar y pecyn swydd isod.

Sut i Wneud Cais

Mae’r manylion dilynol yn y pecyn swydd hwn: disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth am delerau ac amodau.

  • Disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth ar delerau ac amodau.
  • Ffurflen gais, y bydd angen i chi ei llenwi yn amlinellu mewn dim mwy na 800 gair sut ydych yn ateb y meini prawf profiad a nodir yn y rhan ‘yr hyn rydym yn edrych amdano’ o’r fanyleb swydd a pham eich bod eisiau’r swydd.
  • Mae’n RHAID i chi hefyd gyflwyno CV wedi ei deilwra yn ymwneud â’ch cais am y swydd hon (dim mwy na thair tudalen).
  • Ffurflen cyfle cyfartal. Ni chaiff y ffurflen hon ei defnyddio ar unrhyw gam o’r broses recriwtio a chaiff ei gwahanu oddi wrth eich ffurflen gais yn syth ar ôl ei derbyn. Bydd unrhyw wybodaeth a roddir ar y ffurflen yn parhau’n gyfrinachol a dim ond ar gyfer dibenion monitro i asesu effeithlonrwydd ein polisi cyfle cyfartal y caiff ei defnyddio.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch os gwelwch yn dda â, Rhea Stevens.

Dylid anfon y ffurflen wedi’i llenwi, CV a’r ffurflen cyfle cyfartal drwy e-bost wedi’i marcio yn Preifat a Chyfrinachol – Cynghorydd Materion Cyhoeddus a Pholisi to recruitment@chcymru.org.uk erbyn 5pm dydd Mawrth 17 Mehefin 2025.

Caiff pob ffurflen ei chadw am chwe mis yn unol ag arfer gorau i sicrhau y gallwn roi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus ac i gefnogi’r sefydliad pe byddid yn dod â hawliad yn ei erbyn.

Caiff y rhestr fer ei llunio ar 18 Mehefin 2025

Cynhelir cyfweliadau ar 2 Gorffennaf 2025

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais wedi’i gwblhau.