Jump to content

Cyfarwyddwr Materion Allanol - Llanw dros gyfnod mamolaeth - 12 mis

Cartrefi Cymunedol Cymru yw llais cymdeithasau tai yng Nghymru.

Fel corff masnach, rydym yn cynrychioli’r holl gymdeithasau tai dielw sy’n darparu cartrefi i 10% o boblogaeth Cymru. Ein gweledigaeth ar y cyd yw gwneud Cymru yn wlad lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb.

Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Materion Allanol medrus ac ymroddedig, ar gyfer cyfnod mamolaeth 12 mis, i ddarparu arweinyddiaeth effeithiol yn fewnol ac yn allanol ym meysydd polisi, lobïo, materion cyhoeddus, cynrychiolaeth a chyfathrebu.

Am y rôl

  • Darparu arweinyddiaeth strategol a rheoli tîm i sicrhau cyflawni ein Cynllun Corfforaethol ar draws polisi a materion allanol a chyfathrebu.

  • Cefnogi a chyfarwyddo’r Penaethiaid gwasanaeth i oruchwylio cyflwyno ein cynllun gwaith gweithredol yn llwyddiannus ar draws polisi a materion cyhoeddus.

  • Arwain ar ddatblygu polisi yn fewnol a hefyd yn allanol.

  • Chwarae rôl allweddol fel aelod o’r Tîm Uwch Reolwyr, yn cynnwys arwain ystod o brosiectau corfforaethol.

  • Arwain ein gwaith eiriolaeth i sicrhau newid ar ran y sector drwy ddatblygu polisi effeithiol, gweithgaredd materion cyhoeddus a phresenoldeb dylanwadol yn y cyfryngau.

I gael gwybod mwy, cymerwch olwg ar y pecyn swydd isod.

How to Apply

Mae’r manylion dilynol yn y pecyn swydd hwn: disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth am delerau ac amodau.

  • Disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth ar delerau ac amodau.
  • Ffurflen gais, y bydd angen i chi ei llenwi yn amlinellu mewn dim mwy na 800 gair sut ydych yn ateb y meini prawf profiad a nodir yn y rhan ‘yr hyn rydym yn edrych amdano’ o’r fanyleb swydd a pham eich bod eisiau’r swydd.
  • Mae’n RHAID i chi hefyd gyflwyno CV wedi ei deilwra yn ymwneud â’ch cais am y swydd hon (dim mwy na thair tudalen).
  • Ffurflen cyfle cyfartal. Ni chaiff y ffurflen hon ei defnyddio ar unrhyw gam o’r broses recriwtio a chaiff ei gwahanu oddi wrth eich ffurflen gais yn syth ar ôl ei derbyn. Bydd unrhyw wybodaeth a roddir ar y ffurflen yn parhau’n gyfrinachol a dim ond ar gyfer dibenion monitro i asesu effeithlonrwydd ein polisi cyfle cyfartal y caiff ei defnyddio.

    Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch os gwelwch yn dda â, Stuart Ropke.

    Dylid anfon y ffurflen wedi’i llenwi, CV a’r ffurflen cyfle cyfartal drwy e-bost wedi’i marcio yn Preifat a Chyfrinachol – Cyfarwyddwr Materion Allanol to Gemma Beck , canol nos, 2 Medi 2024

    Caiff pob ffurflen ei chadw am chwe mis yn unol ag arfer gorau i sicrhau y gallwn roi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus ac i gefnogi’r sefydliad pe byddid yn dod â hawliad yn ei erbyn.

    Cyfweliad rhithiol / wyneb yn wyneb: 12/13 Medi 2024


    Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais wedi’i gwblhau.