Jump to content

Tai a gofal: Diffinio lleoliadau

Mae llawer o fathau tai gyda gofal a/neu gymorth ar gael yng Nghymru, yn rhoi dewis i breswylwyr gydag anghenion a dewisiadau amrywiol. Gall yr iaith a’r eirfa a ddefnyddir i ddisgrifio tai a llety o’r fath fod yn aneglur, gyda rhai termau yn cael eu defnyddio’n gyfnewidiol.

Daeth hyn yn amlwg yn ystod pandemig COVID-19, lle roedd llawer iawn o wybodaeth am y lleoliadau hyn yn cael ei gynhyrchu yn gyflym. Daeth yn amlwg nad oedd diffiniadau oedd yn cael eu deall yn eang sy’n galluogi swyddogion a rhanddeiliaid i wahaniaethu rhwng y gwahanol fathau o ddarpariaeth, ac roedd hynny weithiau’n arwain at ddryswch am pa ganllawiau ddylai fod yn weithredol i bob lleoliad.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth Cymru wedi cynhyrchu’r canllawiau hyn i geisio mynd i’r afael â’r her hon, fel y gall pob rhanddeiliad fod yn hyderus ac yn glir wrth drafod y mathau hyn o dai a chymorth.