Jump to content

Smart Energy GB – Ymgyrch i dargedu pobl dros 65 nad ydynt ar-lein

Bu Cartrefi Cymunedol Cymru yn gweithio gyda Smart Energy GB i hyrwyddo ymestyn mesuryddion clyfar ledled Cymru. Rydym nawr yn dechrau ar gam nesaf y bartneriaeth i sicrhau ein bod yn wirioneddol ganolbwyntio ar helpu’r rhai sydd fwyaf o angen help i ddeall manteision mesuryddion clyfar.

Rydym yn awr yn dechrau ar gyfnod nesaf y bartneriaeth hon i sicrhau ein bod yn wirioneddol ganolbwyntio ar helpu’r rhai sydd fwyaf o angen help i ddeall manteision mesuryddion clyfar.

Bydd llawer ohonoch wedi gweld hysbysebion Gaz a Leccy ar y teledu yn ddiweddar. Mae ymchwil cynulleidfa yn dangos fod pobl dros 65 oed, sydd heb fod ar-lein, yn llawer mwy tebygol o ymwneud gyda’r ymgyrch. Bydd hyn yn cynnwys llawer o’ch tenantiaid hŷn, a rydym eisiau gweithio gyda chi i sicrhau bod yr ymgyrch yn eu cyrraedd i gynyddu hyder yn y dechnoleg newydd yma fel y gallant ddeall pa mor rhwydd yw eu defnyddio a manteisio o gael mesurydd clyfar.

Adnoddau am Ddim

I’ch helpu i gyrraedd y tenantiaid hyn, mae gan Smart Energy GB amrywiaeth o adnoddau Cymraeg a Saesneg i’w lawrlwytho a’u defnyddio, yn cynnwys taflenni gwybodaeth a phosteri. Mae’r deunyddiau yn cynnwys negeseuon a manteision allweddol ar gyfer pobl 65 oed a throsodd nad oes ganddynt fynediad personol i’r rhyngrwyd. Gellir hefyd archebu rhai ohonynt o Ganolfan Adnoddau Smart Energy GB. Gofynnir i chi ddefnyddio’r deunyddiau mewn cyswllt wyneb yn wyneb neu eu dosbarthu’n uniongyrchol i aelwydydd sy’n debygol o fod yn bobl hŷn ac efallai heb fod ar-lein.