Jump to content

Adroddiad cost byw: Pontio'r bwlch

Mae tenantiaid tai cymdeithasol ymhlith y rhai sy’n cael eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw. Gyda chostau tai sylfaenol a phrisiau cynyddol bwyd, tanwydd ac ynni yn llyncu incymau isel, mae ymdopi a chostau dydd i ddydd yn her barhaus.

Mae cymdeithasau tai Cymru yn ymroddedig i gefnogi tenantiaid drwy’r heriau ariannol hyn, gan weithio i sicrhau fod cartrefi yn parhau’n ddiogel, addas a fforddiadwy.

Dengys ein hadroddiad newydd ‘Pontio’r bwlch’ fod yr argyfwng wedi dod yn frwydr barhaus, lle mae costau uchel hanfodol yn gadael teuluoedd heb unrhyw raff ddiogelwch ariannol.

Fe wnaethom gynnal arolwg ymhlith cymdeithasau tai ledled Cymru i ymchwilio sut mae landlordiaid cymdeithasol yn dod i’r adwy fel rhaff ddiogelwch hanfodol, gan helpu tenantiaid i reoli dyledion, cynyddu eu hincwm ac aros yn eu cartrefi yn ystod pwysau ariannol difrifol.

Infograffig o’r enw "Cymdeithasau Tai Cymru: Canfyddiadau Arolwg Costau Byw" wedi’i osod yn erbyn cefndir coch tywyll gyda thestun aur a gwyn ac wyth panel wedi’u rhifo

Yr hyn a ddywed yr adroddiad

Mae’r canfyddiadau yn rhoi sylw i faint y caledi sy’n wynebu aelwydydd yng Nghymru a hefyd effaith cefnogaeth gan gymdeithasau tai.

  • Cynnydd mawr yn y galw am gymorth: dywedodd 80% o gymdeithasau tai y bu cynnydd yn y galw am gymorth ariannol o gymharu â’r llynedd, gyda mwy na hanner yn sôn am gynnydd sylweddol.
  • Bwyd ac ynni yn parhau i fod y prif bwysau: dywedodd 90% o gymdeithasau tai mai cost uchel bwyd ac ynni yw’r prif heriau ariannol sy’n wynebu tenantiaid.
  • Caledi yn cyrraedd teuluoedd mewn gwaith: Er mai aelwydydd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol (70%) ac aelwydydd un person (65%) yw’r grwpiau mwyaf sy’n gofyn am help, dywedodd 35% o gymdeithasau tai fod aelwydydd mewn gwaith cyflog isel yn gynyddol yn mynd i drafferthion ariannol wrth i brisiau barhau yn uchel.
  • Cymdeithasau tai yn rhoi cymorth hanfodol: Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2026 fe wnaeth cymdeithasau tai gefnogi 5,380 aelwyd, gan sicrhau dros £6.8 miliwn wrth gynyddu incwm i denantiaid. Yn ychwanegol, mae 81% o gymdeithasau tai yn cynnig cronfeydd arbennig ar gyfer caledi, gyda dros £1 miliwn ar gael i denantiaid eleni.
  • Pryderon cynyddol am y gaeaf: mae 95% o gymdeithasau tai yn bryderus am wydnwch ariannol tenantiaid wrth i’r tywydd oerach agosáu.

Rhoi mesurau ataliol ar waith

Mae cymdeithasau tai yn buddsoddi mewn datrysiadau hirdymor i fynd i’r afael â thlodi a chynyddu gwydnwch:

  • Effeithiolrwydd ynni: Ôl-osod ar raddfa helaeth a datblygu cartrefi carbon isel yn gostwng biliau a diogelu tenantiaid rhag marchnadoedd ynni anwadal.
  • Cymorth gyda chyflogaeth a sgiliau: Mae rhaglenni wedi eu targedu yn helpu tenantiaid i chwalu rhwystrau i waith a symud i gyflogaeth gynaliadwy, gan hybu incwm aelwydydd.

Y llinell waelod: Ni allwn wneud iawn am system nawdd cymdeithasol sydd wedi torri

Er yr ymdrechion ataliol, ni all cymdeithasau tai barhau i ymdopi â galw cynyddol am gyfnod amhenodol.

Mae effeithiolrwydd ynni a chymorth cyflogaeth yn cynyddu gwydnwch, ond ni all landlordiaid cymdeithasol wrthbwyso incymau isel, costau byw uchel a system lesiant dan bwysau.

Mae timau rheng flaen yn wynebu pwysau cynyddol, achosion cymhleth a lludded wrth iddynt weithredu mewn modd cynyddol ymatebol. Mae tai fforddiadwy ac ymyriadau lleol yn hanfodol ond ni allant gymryd lle rhwyd ddiogelwch cymdeithasol genedlaethol effeithlon a chadarn.

Beth sydd angen iddo newid

I ddiogelu aelwydydd ac adeiladu dyfodol gwydn, rydym angen gweithredu brys gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn dau faes

Cymorth ar unwaith ar gyfer aelwydydd sydd mewn argyfwng

  • Gwarantu ein hanfodion: Sicrhau fod cyfraddau Credyd Cynhwysol yn ddigon i dalu am wir gost hanfodion byw sylfaenol.
  • Cryfhau cronfeydd argyfwng: Ehangu cymhwyster a gwella cysondeb y Gronfa Cymorth Dewisol a Thaliadau Tai Dewisol fel y caiff pob aelwyd sydd mewn argyfwng eu cefnogi.
  • Darparu cymorth ynni wedi ei dargedu: Cyflwyno tariff ynni cymdeithasol, cymorth gyda dyledion a chymorth wedi ei dargedu ar gyfer aelwydydd sy’n wynebu biliau anwadal

Buddsoddi mewn gwydnwch hirdymor

  • Cydnabod tai cymdeithasol fel seilwaith ataliol: Dylai Llywodraeth Cymru osod cynllun hirdymor ar gyfer tai sy’n cydnabod bod tai cymdeithasol yn seilwaith ataliol hanfodol. Dylai cynllun hirdymor gefnogi cyflenwi mwy o dai fforddiadwy, buddsoddiad parhaus mewn cartrefi presennol a’r gwasanaethau y mae cymdeithasau tai yn eu darparu i gryfhau gwydnwch ariannol.
  • Cysylltu buddsoddiad tai gyda swyddi lleol: Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Sgiliau Adeiladu gan gysylltu datblygu tai ac ôl-osod yn uniongyrchol gyda hyfforddiant, prentisiaethau a chyflogaeth leol gynaliadwy.