Partneriaethau gofal iechyd a chymorth
Yn gryno
Mae ein hiechyd yn cael ei bennu gan y lle’r ydym yn byw a sut yr ydym yn byw. Mae ansawdd ein cartrefi yn un o’r prif bethau sy’n pennu ein hiechyd a’n llesiant: mae cartrefi diogel, cynnes yn helpu i’n cadw yn iach ac annibynnol am cyn hired ag sy’n bosibl. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod 39% yn llai o dderbyniadau i ysbyty am gyflyrau cardioresbiradol ac anafiadau ymhlith pobl sydd â chartrefi wedi eu gwella. Fodd bynnag yng Nghymru y mae rhai o’r stoc tai hynaf a lleiaf effeithlon o ran gwres yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Adeiladwyd 32% o stoc tai Cymru cyn 1919.
Dengys corff eang o dystiolaeth bwysigrwydd allweddol cartrefi da o ran iechyd a llesiant a’i effaith ar hyd cwrs bywyd. Cysylltir tai gwael ag iechyd ac iechyd meddwl gwael ac mae’n achosi, neu’n cyfrannu at, lawer o afiechydon y gellir eu hatal ac anafiadau gan gynnwys afiechydon resbiradol a chardiofasgwlaidd a chanser.
Yn ogystal â’r gost bersonol annheg y gellir ei atal, mae tai gwael yn costio i’r pwrs cyhoeddus. Mae tai gwael yn costio £95 miliwn y flwyddyn mewn costau triniaethau i’r GIG yng Nghymru.
Trwy weithio gyda’n partneriaid ym meysydd iechyd, llywodraeth leol a gofal cymdeithasol gallwn gynyddu’r effaith gadarnhaol y gall cartrefi da ei gael ar iechyd a llesiant y genedl. Mae cymdeithasau tai yn aelodau o Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, y cyrff sy’n gyfrifol am ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl yn eu hardal.
Yn ogystal â bod yn ddarparwyr tai a gofal a gwasanaethau cymorth, mae cymdeithasau tai yn sefydliadau sydd wedi eu gwreiddio mewn cymunedau ac â gwybodaeth a dealltwriaeth a all helpu ein partneriaid i gyrraedd cymunedau a sicrhau bod gwasanaethau yn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl.
Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o’n gwaith
Mae cymdeithasau tai am chwarae eu rhan lawn wrth ddarparu cartrefi a chymunedau sy’n cefnogi iechyd a llesiant y genedl. Mae ein gwaith ym maes iechyd a thai yn canolbwyntio ar gefnogi ein haelodau i ddatblygu’r partneriaethau cryf sydd eu hangen rhwng iechyd, gofal a thai, gan ganolbwyntio ar gefnogi pobl i fyw mor iach ac annibynnol â phosibl gartref ac yn y gymuned.
Er mwyn datblygu ein gwaith polisi ar iechyd a thai rydym yn gweithio gyda’r cymunedau sy’n aelodau, gan gynnwys gyda Phrif Weithredwyr a Chadeiryddion/ Is-gadeiryddion cymdeithasau tai. Rydym hefyd yn darparu lle cyson i gynrychiolwyr cymdeithasau tai ar Fyrddau Partneriaethau Rhanbarthol i ddod at ei gilydd a rhannu profiadau.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff iechyd i gynyddu dealltwriaeth o’r cyfraniad y gall cartrefi da ei wneud i iechyd, gan gynnwys Conffederasiwn GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chynghrair Iechyd a Llesiant Conffederasiwn Iechyd GIG Cymru. Rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru i ddynodi bylchau yn yr ymchwil presennol a sicrhau bod llunio penderfyniadau yn digwydd ar sail y dystiolaeth ddiweddaraf.
Cyhoeddiadau ac adnoddau allweddol
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd