Jump to content

Cynnig Tryloywder Diogelwch

Yn gryno

Diogelwch yn Gyntaf mewn Tai yw ein cynnig tryloywder diogelwch – fframwaith sy’n cefnogi cymdeithasau tai i gyflawni a chynnal dull tryloyw ar faterion iechyd a diogelwch gyda’u preswylwyr. Mae’n eu galluogi i fod yn ymatebol wrth ddelio gyda phryderon cysylltiedig â diogelwch gan breswylwyr ac yn eu grymuso i sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed.

Bydd llawer o gymdeithasau tai eisoes yn mynd tu hwnt i’r safonau gofynnol a nodir yn y fframwaith i gadw eu preswylwyr yn ddiogel, ac fel sector rydym yn uchelgeisiol i fynd â’r safonau hyn ymhellach. Rydym yn gwybod bod deialog barhaus â phreswylwyr yn hanfodol i lwyddiant fframwaith o’r fath, fel y bydd ei adolygu’n gyson i sicrhau bod tenantiaid yn cael eu cefnogi ar faterion iechyd a diogelwch yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o’n gwaith

Sefydlwyd y fframwaith gan y gweithgor tryloywder diogelwch ac mae’n cael ei drafod a’i ddatblygu yng ngrŵp cyflawni strategol diogelwch Cartrefi Cymunedol Cymru.

Crynodeb llawn
Bethan Proctor

Gyda phwy i siarad...

Bethan Proctor

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd