Jump to content

Diogelwch

Yn gryno

Mae diogelwch tenantiaid yn hollbwysig i gymdeithasau tai sy’n gweithio’n ddiflino i gynnal y safonau uchaf posibl. Yn 2020 fe wnaethom gyhoeddi ‘Diogelwch yn Gyntaf mewn Tai’ mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, fframwaith sy’n cefnogi cymdeithasau tai i gyflawni a chynnal yr ymagwedd dryloyw at faterion iechyd a diogelwch.

Fe wnaethom hefyd sefydlu partneriaeth gyntaf y Deyrnas Unedig ar ddiogelwch tân, y ‘Cynllun Awdurdod Tân Sylfaenol’ (PFAS) sy’n rhoi cyngor gyda sicrwydd i gymdeithasau tai, gan eu helpu i gydymffurfio gyda’r gyfraith a chadw tenantiaid yn ddiogel.

Mae cymdeithasau tai yn croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiwygio’r system diogelwch adeiladau yng Nghymru. Fel sector rydym yn cefnogi’r angen i ddiwygio diogelwch adeiladau i sicrhau bod cartrefi yn cael eu cynllunio, adeiladu a’u rheoli i’r safonau diogelwch uchaf.

Ein blaenoriaethau

  • Dylanwadu ar ddeddfwriaeth newydd ar ddiogelwch adeiladau fel y caiff cymdeithasau tai eu cefnogi i gynnal y safonau diogelwch uchaf.
  • Cefnogi aelodau wrth ddeall newid deddfwriaethol ar ddiogelwch adeiladau.
  • Cefnogi aelodau i ddatblygu strategaethau ymgysylltu â phreswylwyr.

Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o waith

Mae gan ein grwpiau cyflenwi strategol Diogelwch a Rheolaeth Tai rôl allweddol wrth lywio ein gwaith yn y maes hwn.

Rydym hefyd yn gweithio gyda’r gweithgor diogelwch tân a grŵp PFAS i ddynodi meysydd blaenoriaeth. Mae’r ddau grŵp yma yn bwydo mewn i grŵp cyflenwi strategol Diogelwch

I gael mwy o wybodaeth ar sut ydym yn datblygu polisi, cliciwch yma.

Crynodeb llawn
Anna Humphreys

Gyda phwy i siarad...

Anna Humphreys
Hidlo yn ôl Maes Polisi
  • Y cyfan
  • Cynllun Awdurdod Tân Sylfaenol (PFAS)
  • Cynnig Tryloywder Diogelwch

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd

Hidlo yn ôl Maes Polisi
  • Y cyfan
  • Cynllun Awdurdod Tân Sylfaenol (PFAS)
  • Cynnig Tryloywder Diogelwch

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd