Jump to content

Deddf Rhentu Cartrefi Cymru 2016

Yn gryno

Daeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar 15 Gorffennaf 2022. Bydd y mwyafrif o denantiaethau preswyl yng Nghymru yn cael eu trosi yn gontractau meddiannaeth newydd, gan gynnwys y mwyafrif helaeth o’r rhai a ddelir gan denantiaid cymdeithasau tai.

Yn ychwanegol at drosi tenantiaethau presennol yn gontractau meddiannaeth, mae’r Ddeddf yn rhoi hawliau ychwanegol i bobl sy’n rhentu eu cartrefi yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Y gallu i geisio gwell iawn os credir bod eu cartref yn anaddas i bobl fyw ynddo
  • Gwell gwarchodaeth rhag troi allan, gan gynnwys cyfnodau rhybudd hwy mewn rhai sefyllfaoedd
  • Gwell hawliau preswylio mewn llety â chymorth
  • Y gallu i ofyn am ychwanegu a thynnu cyd-ddeiliaid contract heb yr angen i greu contract newydd

Mae’r Ddeddf hefyd yn newid arferion rheoli tai i’r landlord, gan gynnwys:

  • Gweithdrefn newydd ar gyfer adfer cartrefi wedi eu gadael heb fod angen gorchymyn llys
  • Offer ychwanegol ar gyfer rheoli llety â chymorth

Fe wnethom gefnogi cymdeithasau tai i baratoi ar gyfer gweithrediad y Ddeddf yng ngwanwyn 2022 ac yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol yn gwybod am broblemau yn ymwneud â’r Ddeddf fel y gellid eu datrys cyn i’r Ddeddf ddechrau.

Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o’n gwaith

Grwpiau Aelodau a Chymunedau Ymarfer

Grŵp Gweithredu Rhentu Cartrefi CHC

Cynhaliodd CHC nifer o weithgareddau i gefnogi cymdeithasau tai cyn y dyddiad gweithredu. Mae hyn wedi cynnwys datblygu polisi gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid, hyfforddiant, a darparu adnoddau aelodau a mannau i drafod. Ers Mai 2021, rydym wedi bod yn rhedeg Grŵp Gweithredu Rhentu Cartrefi i:

  • Roi’r diweddaraf i aelodau am y cynnydd tuag at weithredu
  • Bod yn fforwm i drafod pryderon aelodau am weithredu
  • Rhoi mynediad at swyddogion Llywodraeth Cymru, sy’n dod yno i roi’r newyddion diweddaraf ac i ateb cwestiynau
  • Dynodi anghenion hyfforddiant

Cysylltwch â bryony-haynes@chcymru.org.uk os hoffech chi gael eich ychwanegu at restr dosbarthu’r grŵp.

Cymunedau Ymarfer Rhentu Cartrefi

Ym mis Tachwedd 2021, fe wnaethom greu dau is-grŵp ychwanegol gyda’r nod o ganolbwyntio ar ddatblygu adnoddau a rhannu atebion i agweddau allweddol o bolisi/gweithdrefnau a chyfathrebu â thenantiaid.

Hyd yn hyn mae CHC wedi bod yn hwyluso’r sesiynau grŵp hyn. O fis Mai 2022, bydd y grwpiau yma yn dod yn rhai a arweinir gan yr aelodau a’u rhedeg fel Cymunedau Ymarfer lle gall aelodau barhau i gael trafodaethau ymhlith cymheiriaid a rhannu syniadau.

Cysylltwch â bryony-haynes@chcymru.org.uk os hoffech chi arwain unrhyw un o’r grwpiau hyn.

Hyfforddiant a Sesiynau Sbotolau

Sesiynau blaenorol

Yn ddiweddar rydym wedi cwblhau cyfres hyfforddi chwe rhan gyda Hugh James oedd yn trafod:

  • Paratoi ar gyfer trosglwyddo
  • Dosbarth meistr llunwyr penderfyniadau
  • Tai â chymorth, trwyddedau a digartrefedd
  • Contractau ysgrifenedig, ymholiadau a thueddiadau
  • Addasrwydd i Bobl Fyw a thai mewn cyflwr gwael
  • Rheoli tai a gorfodi contractau

Sesiynau sydd ar y ffordd

Hyfforddiant

Sesiwn hyfforddi i gwblhau gyda Hugh James - Gorffennaf 2022 : Ar ôl i’r holl reoliadau a dogfennau oedd yn weddill gael eu rhyddhau, roedd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar unrhyw wybodaeth newydd y mae ar landlord ei angen cyn y dyddiad gweithredu.

Sesiynau gloywi - ers hydref 2022: Cynhaliwyd y rhain ar ôl gweithredu’r cynllun yn chwarterol i ailadrodd egwyddorion allweddol y Ddeddf. Rhoddwyd enghreifftiau o ymarfer yn dilyn gweithredu, yn ogystal ag adolygu agweddau/materion allweddol o sesiynau hyfforddi blaenorol.

Sesiynau Sbotolau:

Mae CHC yn cynnal sesiynau Llif Oleuadau fydd yn cynnwys astudiaethau achos, enghreifftiau o arfer gorau a siaradwyr gwadd o Lywodraeth Cymru, Hugh James a chymdeithasau tai. Mae llif oleuadau yn rhoi cyfle i gymdeithasau tai gyflwyno sefyllfa, herio syniad, a thanio sgwrs gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid eraill am drosi polisi yn ymarfer.

Crynodeb llawn