Jump to content

Llesiant

Yn gryno

Mae cymdeithasau tai yn rhoi cymorth a chyngor hanfodol i denantiaid sy’n hawlio budd-daliadau. Maent hefyd yn helpu tenantiaid bregus sydd angen taliadau wedi eu rheoli i’w landlord drwy’r system o drefniadau talu amgen.

Gweithiwn yn agos gyda’n haelodau i ddylanwadu ar systemau llesiant yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau eu bod yn effeithlon wrth gefnogi tenantiaid cymdeithasau tai i fod yn ariannol gadarn.

Dolenni:

  • Papurau gwybodaeth manwl blaenorol ar y Credyd Cynhwysol
  • Ymchwil ORS

Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o waith

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r grwpiau cyflenwi strategol Llesiant a Rheolaeth Tai.

Rydym yn gweithio gyda’n haelodau i feincnodi ôl-ddyledion rhent a cheisio deall effaith newidiadau budd-dal ar yr ôl-ddyledion hyn, ac ar brofiadau tenantiaid.

Gan nad yw’r rhan fwyaf o faterion llesiant wedi eu datganoli, rydym yn gweithio’n agos gyda’r pedair ffederasiwn tai yn y Deyrnas Unedig i ddylanwadu ar newid o fewn polisi Llywodraeth y DU.

Rydym hefyd yn gwneud gwaith dylanwadu uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru yng nghyswllt budd-daliadau sy’n gweithredu o fewn Cymru ac ar faterion tebyg i ddefnydd budd-daliadau a chynyddu incwm.

I gael mwy o wybodaeth ar sut ydym yn datblygu polisi, cliciwch yma.

Crynodeb llawn

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd