Jump to content

25 Tachwedd 2019

Yr Etholiad Cyffredinol - Yr hyn a wyddom hyd yma

Yr Etholiad Cyffredinol - Yr hyn a wyddom hyd yma
Galwodd Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, am etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr er mwyn adfer mwyafrif y Ceidwadwyr a 'chyflawni Brexit'. Pe ffeiriech Brexit am bolisïau diffynnaeth, gellid maddau i chi am feddwl ein bod wedi teithio'n ôl i fis Rhagfyr 1923 pan alwodd Stanley Baldwin, y Prif Weinidog Ceidwadol, am etholiad er mwyn cryfhau ei arweinyddiaeth a gwthio polisïau amddiffyn masnach.


Mae rhai'n teimlo fod yr etholiad yn ddirprwy refferendwm ar y penderfyniad ar Ewrop, ond yn wythnosau cyntaf yr ymgyrch mae'r rhan fwyaf o'r prif bleidiau wedi canolbwyntio ar bolisïau domestig mewn ymdrech i ennill pleidleiswyr. Cafodd tai le blaenllaw yn yr ymrwymiadau hyn hyd yma. Dyma grynodeb o'r hyn a glywsom gan bob plaid hyd yn hyn.


Y Blaid Geidwadol


Cyhoeddodd y Ceidwadwyr eu maniffesto ddydd Sul gydag addewid i adeiladu miliwn o gartrefi erbyn 2025 i helpu prynwyr tro cyntaf a rhoi hwb i adeiladu tai preifat. Ymhellach, maent eisiau adnewyddu'r Rhaglen Tai Fforddiadwy yn Lloegr, darparu disgownt 30% i brynwyr tro cyntaf 'Cartrefi Cyntaf' ac ymrwymo i addewid Theresa May o ddod â dadfeddiannu dim bai i ben. Fodd bynnag, nid oes unrhyw amheuaeth mai Brexit sydd wedi dominyddu agenda'r Torïaid.


Y Blaid Lafur


Mae'r Blaid Lafur wedi ymrwymo 'chwyldro tai' drwy gynllunio ar gyfer y rhaglen tai cyngor a thai cymdeithasol fwyaf ers y 1960au. Defnyddid £75bn o'r 'Gronfa Trawsnewid Cymdeithasol' arfaethedig dros y pum mlynedd nesaf i adeiladu 100,00 o dai cyngor a 50,000 o dai fforddiadwy gan gymdeithasau tai bob blwyddyn. Amcangyfrifwn y byddai hyn yn arwain at gynnydd o fwy na £900m gan Lywodraeth Cymru i'w buddsoddi yn ei blaenoriaethau, sef tua wyth gwaith cyllideb bresennol y Grant Tai Cymdeithasol.


Y Democratiaid Rhyddfrydol


Wrth lansio eu maniffesto yr wythnos hon, ymrwymodd y Democratiaid Rhyddfrydol i adeiladu 300,000 o gartrefi y flwyddyn, gyda thraean ohonynt yn rhai rent cymdeithasol. Ynghyd ag atal Brexit a darparu gofal plant am ddim, maent hefyd yn addo cynhyrchu 80% o drydan o ffynonellau adnewyddadwy ac insiwleiddio pob cartref incwm isel erbyn 2025


Plaid Cymru


Yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol, mae Adam Price arweinydd Plaid Cymru wedi tynnu sylw at y nifer cynyddol o bobl ddigartref a phlant mewn tlodi yng Nghymru. Maent eisiau cyflwyno taliad wythnosol o £35 ar gyfer pob plentyn mewn teuluoedd incwm isel a buddsoddi mewn cartrefi fforddiadwy.


Yng Nghymru, mae chwech Aelod Seneddol wedi cadarnhau na fyddant yn sefyll eto ym mis Rhagfyr (2 Geidwadwr, 2 Llafur). Mae'r polau diweddaraf yn rhagweld mai Llafur bydd ar y brig yng Nghymru ond gyda'r Blaid Geidwadol yn dilyn yn agos, sy'n targedu nifer fawr o seddi ymylol ar draws Cymru. Yng ngeiriau Harold Wilson, mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth a gyda thair wythnos i fynd tan y diwrnod pleidleisio, mae popeth yn dal yn y pair.


Yn y cyfnod cyn yr etholiad mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) yn gofyn i ddarpar ymgeiswyr ymrwymo i dair blaenoriaeth sy'n effeithio ar gymdeithasau tai yng Nghymru.


Yn gyntaf, galwn am roi blaenoriaeth i fuddsoddiad mewn tai cymdeithasol fforddiadwy a'i ystyried fel blaenoriaeth seilwaith ar draws y Deyrnas Unedig. Er fod tai yn fater sydd wedi ei ddatganoli i Gymru, mae lefelau isel o fuddsoddiad seilwaith yn y Deyrnas Unedig wedi llesteirio ar allu dilynol Llywodraeth Cymru i fuddsoddi.


Rydym hefyd eisiau i bob plaid roi blaenoriaeth yn eu maniffestos i wneud Credyd Cynhwysol yn decach drwy addo gostwng yr amser aros am daliadau, sicrhau fod taliadau'n ddigon ar gyfer costau byw ac, i'r rhai a all wneud hynny, ei gwneud yn bosibl i bobl fynd i waith heb golli sefydlogrwydd cymorth llesiant. Gwyddom y bydd angen mwy na dim ond arian a chydnabyddiaeth fod tai yn seilwaith hanfodol i ddod â'r argyfwng tai i ben. Rydym hefyd angen gweithredu cadarn ar sgiliau, tir a'r cadwyni cyflenwi lleol sy'n sylfaen i'r diwydiant adeiladu.


Bu buddsoddiad mewn seilwaith rhanbarthol yn un o fanteision allweddol aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd, a beth bynnag sy'n digwydd i Brexit, mae'n hanfodol fod lefelau presennol o gyllid strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu cadw yng Nghymru.


Efallai mai Brexit yw'r gair sydd ar wefusau pawb, ond mae'n sicr nas anghofiwyd am y sector tai. Gyda phob plaid yn ymrwymo eu cefnogaeth i fwy o dai, nid ydym wedi gweld eto sut y caiff hyn ei wireddu. Arweiniodd etholiad Rhagfyr 1923 ar senedd glwm i Stanley Baldwin; a yw hanes ar fin ail-adrodd ei hunan?