Jump to content

15 Tachwedd 2018

Yr Adolygiad o Dai Fforddiadwy Cymru yn "gyfle unwaith mewn cenhedlaeth"

Cartrefi Cymunedol Cymru yn annog y panel Adolygiad o Dai Fforddiadwy Cymru i fod yn feiddgar, dewr a meddwl am yr hirdymor mewn argymhellion i gyflawni'r nod o 75,000 o gartrefi erbyn 2036

Ym mis Tachwedd 2017 galwodd Cartrefi Cymunedol Cymru am adolygiad o bolisi tai fforddiadwy yng Nghymru i alluogi cymdeithasau tai i gyflawni eu potensial llawn.

Caiff yr adolygiad yn awr ei arwain gan banel annibynnol dan gadeiryddiaeth Lynn Pamment, Uwch Bartner ac Arweinydd Llywodraeth Gwasanaethau a Cyhoeddus swyddfa Caerdydd PWC. Ar ôl ymgynghori gyda 200 o aelodau staff a byrddau cymdeithasau tai, cyflwynodd Cartrefi Cymunedol Cymru eu hymateb i'r adolygiad ym mis Medi.

Mae'r panel yn awr yn y broses o lunio argymhellion o dystiolaeth a gyflwynwyd o bob rhan o'r sector, a gyhoeddir ym mis Ebrill.

Wrth siarad yng Nghynhadledd Flynyddol Cartrefi Cymunedol Cymru dywedodd Stuart Ropke y Prif Weithredydd fod hyn yn "gyfle unwaith mewn cenhedlaeth" i drawsnewid polisi tai Cymru a galluogi cymdeithasau tai i gyflawni eu nod o 150,000 o swyddi a 75,000 o gartrefi erbyn 2036. Yn ei araith gyweirnod, anogodd y panel i argymell y dilynol:

  • Rhoi hyblygrwydd i gymdeithasau tai osod eu polisi rhent eu hunain yn yr hirdymor - gyda rhenti'n cael eu gosod yn lleol ar lefel fforddiadwy
  • Codi'r cap benthyca ar gyfer awdurdodau lleol ac agor cyfleoedd ar gyfer gweithio partneriaeth
  • Gofyn i'r Llywodraeth roi sicrwydd am sgiliau ac adeiladu yn dilyn Brexit

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Un peth sy'n glir yw gallu a dymuniad cymdeithasau tai i gyflawni dros bobl Cymru. Pan wnaethom lansio ein gweledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, fe wnaethom osod her i Lywodraeth Cymru sydd wedi arwain at yr Adolygiad Annibynnol o Bolisi Tai yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Lynn Pamment. Mae'r Adolygiad yn rhoi cyfle i ni fynd i'r afael â'r materion sy'n wynebu'r sector tai a chyflawni ein nod o ddarparu 75,000 o gartrefi newydd erbyn 2036.

Gan gydweithio, mae gan gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol y capasiti a'r uchelgais i fynd â'r maen i'r wal wrth drechu'r argyfwng tai yng Nghymru. Mae'r Adolygiad yn cynnig cyfle i ddarparu fframwaith lle daw cymdeithasau tai a llywodraeth ynghyd i gyflawni ein gweledigaeth.”

Darllenwch araith llawn Stuart yma.