Jump to content

27 Ebrill 2020

Ymladd yn ôl yn erbyn Covid-19

Ymladd yn ôl yn erbyn Covid-19
Dros y mis diwethaf, gwelsom bandemig Covid-19 yn taro gyda straeon trist yn tra-arglwyddiaethu ar y penawdau.


Fodd bynnag, mewn cyfnodau anodd, mae pobl yn camu lan a mynd yr ail filltir i gefnogi’r rhai o’u hamgylch. Yn ystod yr argyfwng yma, mae cymdeithasau tai ledled Cymru yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r argyfwng iechyd gwaethaf a wynebodd ein cenhedlaeth.


Cadw mewn cysylltiad


Yn ystod y cyfnod hwn, mae pobl hŷn yn fwy tebygol o deimlo’n unig ac ar wahân, gyda llai o gyfle i fynd allan a chysylltu gyda phobl. Bu staff Adra, sydd â’i bencadlys ym Mangor, yn ffonio eu holl denantiaid 70 oed a thenantiaid bregus yn gyson i’w helpu i deimlo’n llai unig tra maent yn aros adre.


Mae Cartrefi Conwy wedi sefydlu tîm llesiant newydd yn cynnwys staff y mae eu gwaith wedi dod i ben oherwydd y feirws. Mae’r tîm wedi gwneud dros 1000 galwad i denantiaid bregus ac oedrannus ers dechrau’r cyfyngiadau ar symud.


Yn ychwanegol, mae staff Bron Afon ym Mhont-y-pŵl wedi gwneud dros 1,300 galwad ffôn y dydd i denantiaid dros 70 oed. Mae’r galwadau yn amlwg yn gwneud gwahaniaeth i’r bobl hyn, sydd wedi dweud eu bod “wrth eu bodd yn clywed llais cyfeillgar ar y cyfnod anodd hwn.”


Cyngor ar Arian


Mae Covid-19 wedi newid yn gyflym y byd o’n cwmpas, ac wedi gadael pobl yn teimlo’n ansicr am eu swyddi a’u sefyllfa ariannol. Bu’n rhaid i gymdeithasau tai addasu eu dulliau gwaith er mwyn parhau i roi cyngor ar swyddi a chyngor ariannol i’r 250,000 o denantiaid a gefnogant ar draws Cymru.


Mae tîm United Welsh yng Nghaerffili i gyd nawr yn gweithio o bell, ond nid yw hynny’n golygu fod y cymorth wedi dod i ben. Pan gyrhaeddodd y feirws Gymru, fe wnaethant ddechrau ymestyn mas i’r bobl roeddent wedi eu cefnogi i gael hyd i swyddi dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnig cyngor a chymorth ar y camau nesaf. Gyda thenantiaid yn awr yn amlwg yn bryderus am eu sefyllfa ariannol a’u swyddi, bu gan dîm United Welsh rôl hollbwysig wrth deilwra cymorth a chynnig cyngor i’r rhai sy’n parhau i chwilio am waith.


Bu RHA yn Nhonypandy yn ymestyn allan i denantiaid i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod am yr help a’r cymorth sydd ar gael iddynt. Bu’r tîm ar gael i gefnogi’r rhai a all fod yn cael anhawster yn talu rhent, rhoi cyngor ar drefnu arian a budd-daliadau, a chyfeirio pobl i’r prosiect Grub Hub ar gyfer cyfraniadau bwyd.


Yn ddiweddar fe wnaeth Dave o Cartrefi Melin yng Nghaerdydd helpu preswylydd oedd yn ei chael yn anodd talu dyled bil dŵr, gan olygu arbediad o dros £820. Nid yw’n syndod fod y tenant yn awr yn cyfeirio at Dave fel ‘arwr’!


Llesiant


Mae gorfod aros adre yn sicr o gael effaith ar iechyd meddwl pobl


Mae Cymdeithas Tai Newydd yn Nhongwynlais yn rhedeg rhaglen lwyddiannus Hapi sy’n helpu i gadw’r gymuned yn iach ac yn hapus drwy weithgareddau yn cynnwys dosbarthiadau coginio, cyrsiau hyfforddiant a rhedeg clybiau. Mae tenantiaid yn cael budd mawr o’r rhaglen, felly er gwaethaf yr argyfwng, roeddent yn awyddus i ddal i’w rhedeg ar sail ddigidol. Mae Newydd yn awr yn defnyddio Facebook Live i gynnal dosbarthiadau ffitrwydd teulu, dosbarthiadau coginio, a’r sesiynau canu poblogaidd iawn. Profodd y rhaglen yn boblogaidd tu hwnt i Dde Cymru, ac mae wedi cyrraedd dros 20,000 o bobl ym mhob rhan o’r byd.


Gwirfoddoli


Gyda nifer o brosiectau wedi eu gohirio, bu staff cymdeithasau tai yn gwirfoddoli eu hamser i rannau eraill o’r sefydliad. Yn ei swydd dydd arferol mae Andrew Beale yn Rheolydd Prosiect yn Nhîm Datblygu Linc, ond mae wedi dechrau gwirfoddoli ar uned dementia cartref nyrsio Tŷ Penylan yng Nghaerdydd. Yn ei rôl newydd, bu Andrew yn helpu i baratoi brecwastau a’i ddosbarthu i breswylwyr. Gwelodd drosto ei hun ofal ac ymroddiad ei gydweithwyr i ofalu am y preswylwyr yng nghartrefi nyrsio Linc, yn arbennig ar adeg pan na fedrant mwyach dderbyn ymweliadau gan eu teuluoedd.


Bu staff o Tai Merthyr yn paratoi pecynnau gweithgaredd ar gyfer plant a phobl ifanc sydd yn Ysbyty Tywysog Siarl y dref. Ni all y bobl ifanc hyn weld eu teuluoedd, felly mae’r tîm yn falch iawn i fedru gwneud arhosiad y bobl ifanc mewn ysbyty rywfaint yn well.


Banciau Bwyd


Gyda thenantiaid cymdeithasau tai yn wynebu caledi oherwydd Covid-19, disgwylir i ddibyniaeth ar fanciau bwyd gynyddu. Bu tîm Glân a Gwyrdd Tai Calon ym Mlaenau Gwent yn brysur yn defnyddio eu faniau i ddosbarthu cyflenwadau o’r banc bwyd i bobl mewn angen ar draws yr ardal.


Bu Grŵp Pobl a Cartrefi Dinas Casnewydd yn cydweithio gyda Chyngor Casnewydd a banc bwyd Casnewydd i ddarparu mwy na 4,000 o brydau mewn un wythnos i breswylwyr lleol.


Yn y cyfamser, mae’r tîm grymuso cymunedol yn Linc wedi lansio rhaglen cymorth bwyd llwyddiannus, gyda nwyddau’n cael eu dosbarthu i denantiaid bregus sy’n ei chael yn anodd cyrchu bwyd yn yr argyfwng presennol.


Bydd cymdeithasau tai yng Nghymru yn rhoi sylw i’w gwaith i gefnogi tenantiaid yng Nghymru drwy ymgyrch newydd ‘Gyda Chi’. Dilynwch yr ymgyrch hon drwy dudalen Twitter CHC @CHCymru a chwilio am hashnod #gydachi