Ymateb i datganiad Llywodraeth Cymru ar yr Adolygiad Annibynnol o Gyflenwad Tai Fforddiadwy
Mewn ymateb i'r Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy, mae Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi dweud ei bod yn derbyn pob un, ac eithrio un, o argymhellion yr Adolygiad. Mae hefyd wedi ysgrifennu i awdurdodau cynllunio ledled Cymru i bwysleisio bod rhaid i gynlluniau datblygu gefnogi safleoedd sy'n cynnwys o leiaf 50% o dai fforddiadwy.
Mae'r datganiad yn cynnwys y canlynol:
- Bydd y polisi rhenti pum mlynedd yn cael ei gyhoeddi cyn i'r Cynulliad dorri am yr haf;
- Mae angen ffordd newydd o weithio mewn perthynas â chyllid grant ar gyfer cymdeithasau tai ac awdurodau lleol, a bydd Llywodraeth Cymru'n cydweithio ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i ddatblygu hynny;
- Bydd awdurdodau lleol uchelgeisiol yn gallu cael grant tai i adeiladu mwy o dai cyngor yn ddi-oed ac ar raddfa fawr;
- Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried sefydlu corff i gefnogi'r ffordd orau o ddefnyddio tir y sector cyhoeddus i greu mwy o dai;
- Rhaid i bob eiddo ni waeth beth fo'r ddeiliadaeth gael yr un safonau o ran ansawdd, megis maint o le a bod yn effeithlon o ran ynni; a
- Bydd y sector tai'n cael ei gynghori ynghylch strategaeth newydd i ehangu'r defnydd o weithgynhyrchu oddi ar y safle a dulliau adeiladu modern i greu cartrefi di-garbon.
Dywedodd Julie James:
“Rwy'n ymwybodol bod rhaid i’n buddsoddiad sylweddol mewn tai fforddiadwy gael ei ddefnyddio mor effeithiol ag sy'n bosibl, ac ar gyfer y pethau sydd eu hangen fwyaf. Dyna pam rwy'n cymryd camau ar sail argymhellion yr adolygiad.
Rwy hefyd yn ysgrifennu i'r holl awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn manteisio ar bob cyfle i greu datblygiadau tai yng Nghymru sy'n cynnwys o leiaf 50% o dai fforddiadwy. Yn sgil cael gwared ar gap benthyca'r Cyfrif Refeniw Tai a'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i adeiladu tai fforddiadwy, rwy am iddyn nhw sicrhau bod hwnnw'n rhan allweddol o waith adolygu eu Cynlluniau Datblygu Lleol.”
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru:
"Mae bwriad y Gweinidog i sicrhau bod nifer sylweddol o holl gartrefi yng Nghymru yn rhai fforddiadwy yn uchelgeisiol tu hwnt, ac mae cymdeithasau tai yn barod am yr her. Rydym eisiau gweld Cymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb ac mae hynny'n golygu cydweithio mewn ffyrdd newydd i fynd i'r afael â'r argyfwng tai.
Mae cymdeithasau tai bob amser wedi rhoi lle canolog i fforddiadwyedd wrth osod rhenti, ac rydym yn falch iawn i weld y Gweinidog yn canolbwyntio ar hyn yn ymateb heddiw. Mae gan Lywodraeth Cymru nawr gyfle go iawn i gefnogi gwneud penderfyniadau gwirioneddol, cadarn ac ystyrlon rhwng landlord a thenant, drwy ddarparu setliad rent cynaliadwy a hirdymor yr Haf hwn.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i gyflawni'r argymhellion. Gyda buddsoddiad parhaus gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn edrych ar ffyrdd newydd i arloesi gyda phartneriaid allweddol, i sicrhau ein bod yn darparu mwy o gartrefi sydd yn wirioneddol fforddiadwy ac addas ar gyfer y dyfodol."