Jump to content

26 Mehefin 2017

Ymateb diweddaraf CHC at dan Twr Grenfell - 26 Mehefin

Bu CHC yn gweithio'n agos gydag aelodau a Llywodraeth Cymru i sicrhau diogelwch tenantiaid yn y dyddiau a'r wythnosau yn dilyn y tân brawychus yn Nhŵr Grenfell yn Llundain.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd:

“Mae'n anodd dychmygu'r effaith a gafodd y tân arswydus yn Nhŵr Grenfell ar breswylwyr ac anwyliaid y rhai a gollodd eu bywydau. Mae CHC yn gweithio gydag aelodau i sicrhau y cymerir pob cam i atal unrhyw beth tebyg rhag digwydd yng Nghymru ac i roi sicrwydd i denantiaid.

Buom yn gweithio'n agos iawn gyda'n haelodau a Llywodraeth Cymru i gasglu gwybodaeth ar stoc ein haelodau. Gallwn gadarnhau na chafodd y math o gladin a ddefnyddiwyd yn Nhŵr Grenfell ei ddefnyddio ar unrhyw dŵr bloc sy'n eiddo cymdeithas tai yng Nghymru. Rydym hefyd yn annog aelodau i ddefnyddio gwasanaethau profi Llywodraeth Cymru ar gyfer holl gladin blociau tŵr i sicrhau ei fod yn pasio profion diogelwch tân.

Mae CHC hefyd yn croesawu'r ymchwiliad a gynhelir gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad Cenedlaethol ar ddiogelwch tân mewn blociau tŵr. Byddwn yn rhoi tystiolaeth, wrth ochr ein haelodau, i sicrhau fod gan aelodau pwyllgor yr holl wybodaeth maent ei hangen i wneud unrhyw argymhellion angenrheidiol i Lywodraeth Cymru ar ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel.

Ein tenantiaid yw prif flaenoriaeth y sector. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n haelodau, Llywodraeth Cymru ac ymchwiliad y Cynulliad dros yr wythnosau a misoedd nesaf i roi sicrwydd pellach ac i wneud yn siŵr fod ein tenantiaid yn ddiogel."

Ymateb Llywodraeth Cymru

Gwnaeth Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, ddatganiad ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r tân.

"Mae landlordiaid cymdeithasol preswyl Cymru rhyngddynt yn berchen ar 36 o flociau o fflatiau sy'n cynnwys saith llawr neu ragor.

Mae landlordiaid cymdeithasol wedi dweud wrthym ni nad yw'n ymddangos bod unrhyw un o'r rheini yn cynnwys y math o gladin a oedd wedi'i ddefnyddio ar Dŵr Grenfell. Mae systemau chwistrellu wedi'u hôl-osod mewn saith bloc yng Nghymru - ac wrth gwrs, fel rhan o'r newidiadau a gyflwynwyd fel rhan o Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011, byddai'n rhaid i unrhyw flociau newydd neu unrhyw waith adnewyddu i flociau presennol gynnwys system chwistrellu. Cafodd y gofynion eu cyflwyno ar gyfer fflatiau a thai ar 1 Ionawr 2016.

Bydd gosod system chwistrellu mewn tai newydd ac fel rhan o raglenni adnewyddu yn cyfrannu'n fawr at y gwaith o leihau'r perygl o farwolaeth ac anafiadau oherwydd tân. Mae rhai cynghorau a chymdeithasau tai yng Nghymru eisoes wedi gwneud hyn.

Rwy'n gobeithio bod hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i breswylwyr y safleoedd hynny."

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd y caiff grŵp arbenigol ei ffurfio i edrych ar y gwersi i'w dysgu o dân Tŵr Grenfell. Caiff y grŵp, fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sector tai cymdeithasol a'r gwasanaethau tân ac achub, ei gadeirio gan Des Tidbury, Prif Gynghorydd Tân Llywodraeth Cymru.

Mae CHC mewn cysylltiad agos gyda Llywodraeth Cymru, ac yn parhau i roi gwybodaeth a hwyluso cyfathrebu amserol gydag aelodau.

Ymchwiliad y Cynulliad

Bydd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad ar 13 Gorffennaf i ddiogelwch tân mewn blociau tŵr. Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan nifer o randdeiliaid yn cynnwys CHC a'n haelodau.

Bydd yr Ymchwiliad yn ystyried y meysydd dilynol:

Pa ofynion/mesurau diogelwch tân sydd ar waith mewn blociau tŵr yng Nghymru ar hyn o bryd
A oes unrhyw fylchau neu wendidau amlwg yn y system bresennol o reoleiddio diogelwch tân mewn blociau tŵr yng Nghymru?
A yw'r canllawiau i drigolion blociau tŵr yng Nghymru, mewn achos o dân, yn briodol?
Sut y caiff trigolion blociau tŵr yng Nghymru wybodaeth a sicrwydd am ddiogelwch tân yn dilyn tân Tŵr Grenfell?

Rhoi sylw i'ch gwaith

Bu aelodau CHC yn gweithio'n agos gyda'u Haelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol a chynghorwyr lleol i roi sicrwydd eu bod yn gweithio'n agos gyda thenantiaid. Gall aelodau ddod o hyd i fanylion eu Haelodau Seneddol lleol yma: http://senedd.assembly.wales/mgFindMember.aspx

Hefyd, bu Gary Colston o Cartrefi Cymoedd Merthyr o amgylch Cwrt Santes Tudful, bloc 11 llawr ym Merthyr Tudful, gyda BBC Radio Wales ac ymgynghorydd diogelwch tân. Rhoddwyd sylw i Cwrt Santes Tudful ar raglen newyddion min nos ITV Cymru hefyd.

Cadw mewn cysylltiad

Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein hymateb i dân Tŵr Grenfell.