Ymateb CHC i Gyllideb y Deyrnas Unedig
Cyflwynodd Philip Hammond ei ail Gyllideb heddiw fel Canghellor y Trysorlys. Gallwch ddarllen y dogfennau yma.
Mae'r cyhoeddiadau'n cynnwys:
- Pecyn £1.5bn i "fynd i'r afael â phryderon" am gyflwyniad Credyd Cynhwysol
- Y cyfnod aros dechreuol o waith diwrnod ar gyfer prosesu hawliadau i gael ei ddileu
- Hawlwyr i gael taliad un mis o fewn pum diwrnod o wneud cais
- Cynyddu cyfnod ad-dalu blaendaliadau o chwech i 12 mis
- Bydd hawlwyr newydd Credyd Cynhwysol sy'n derbyn budd-dal tai yn parhau i'w dderbyn am ddwy wythnos
Dywedodd Aaron Hill, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Polisi a Materion Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru: "Mae'r addasiadau a wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i'r polisi Credyd Cynhwysol yn gam cadarnhaol ymlaen. Rydym yn falch i weld fod y Llywodraeth wedi cydnabod ac ymrwymo i ddatrys y gwallau cynllunio yn y polisi. Fodd bynnag, nid yw'n mynd yn ddigon pell a medrir gwneud gwelliannau pellach o hyd.
Rydym yn galw am atal ymestyn Credyd Cynhwysol dros dro fel y gellir cymryd mwy o amser i adolygu'r problemau sylweddol gyda'r polisi. Credwn y dylid gostwng yr amser aros ymhellach i bedair wythnos i sicrhau nad yw pobl yn gorfod aros am fwy o amser nag sydd angen. Hoffem weld taliadau'n cael eu gwneud i denantiaid cyn gynted ag y caiff ei rhent ei wirio, a byddem hefyd yn hoffi gweld tenantiaid yn cael yr opsiwn i ofyn am i'w cymorth tai gael ei dalu'n uniongyrchol i landlordiaid. Rydym hefyd eisiau gweld gwell cyfathrebu rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau, hawlwyr a landlordiaid drwy ymestyn y porth landlordiaid ar unwaith a rhoi statws partner dibynadwy i bob cymdeithas tai a fyddai'n gwneud gwahaniaeth mawr i bobl ledled Cymru.
Roeddem yn falch iawn gweld £1.2bn o gyllid canlyniadol i Lywodraeth Cymru a byddem hefyd yn falch i weld hyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau cyfalaf mawr, yn cynnwys tai, i gyflawni'r uchelgeisiau a nodir yn ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer cymdeithasau tai a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, yn cynnwys ymrwymiad i adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036."