Ymateb CHC i gyhoeddiad cyllideb ddrafft Cymru
Mae'r Gweinidog Cyllid Mark Drakeford wedi cyflwyno ei ddrafft araith cyllideb ar gyfer 2018/2019, gan wneud nifer o ymrwymiadau'n gysylltiedig â thai yn y gyllideb gyntaf lle gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau trethu a benthyca.
Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnwys y cyhoeddiad dros y penwythnos fod Llafur Cymru a Phlaid Cymru wedi cytuno ar ddêl cyllideb dwy flynedd.
Yr ymrwymiadau cyllid allweddol o'r ddrafft gyllideb yn ymwneud â chymdeithasau tai oedd:
diogelu'r rhaglen Cefnogi Pobl am y ddwy flynedd nesaf
£340m ychwanegol o gyfalaf i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'w targed o 20,000 o gartrefi
£10m pellach bob blwyddyn i ostwng digartrefedd
diogelu'r gyllideb gofal cymdeithasol am y ddwy flynedd nesaf
£1m ychwanegol bob blwyddyn ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid hefyd y byddid yn diwygio'r Dreth Trafodiadau Tir (gynt y Dreth Stamp), gan godi'r trothwy ar gyfer cyfradd isaf y dreth o £125,000 i £150,000.
Gyda'r pwerau treth newydd sydd ar gael iddo, cyhoeddodd hefyd restr fer o bedair treth newydd y byddai Llywodraeth Cymru yn eu hystyried, sy'n cynnwys lefi i gyllido gofal cymdeithasol a threth thir segur i fynd i'r afael â bancio tir. Cyhoeddir manylion pellach ar y cynigion hyn fel y cânt eu hystyried dros y misoedd nesaf cyn penderfyniad terfynol yn 2018.
Y tu allan i'r maes tai, cynyddwyd cyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan £230m yn 2018/19 a £220m yn 2019/20, £40m ar gyfer Ysgolion y 21an Ganrif a £50m ar gyfer gorsaf reilffordd newydd yn Llanwern.
Mewn ymateb, dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Mae hon yn gyllideb dda ar gyfer tai gyda £340m i gyllido tai fforddiadwy newydd.
"Mae diogelu'r rhaglen Cefnogi Pobl yn golygu y gall cymdeithasau tai barhau â'u gwaith pwysig yn newid bywydau drwy roi cymorth i rai sy'n ffoi rhag trais yn y cartref, sy'n dioddef salwch meddwl ac yn profi digartrefedd.
“Mae cyllideb heddiw hefyd yn gweld gwariant ar y GIG yng Nghymru yn agosáu at 50% o gyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru a rhagwelir y bydd yn cynyddu ymhellach mewn blynyddoedd i ddod. Mae'r arwyddion yn amlwg iawn. Mae angen i ni wneud pethau'n wahanol. Nid yw'r sefyllfa hon yn gynaliadwy yn yr hirdymor. Mae tai da yn gwella iechyd ac yn cadw pobl allan o'r ysbyty ac yn eu cartrefi am hirach. Mae cyllideb heddiw'n cynnig cyfle i ni ateb yr her, ac mae cymdeithasau tai yn barod i weithio gyda'n partneriaid yn cynnwys y GIG a llywodraeth leol ar draws Cymru. Rydym yn uchelgeisiol dros Gymru ac eisiau chwarae ein rhan lawn."