Ymateb CHC at adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar addasiadau tai
Heddiw, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n adolygu darpariad addasiadau tai yng Nghymru.
Dywedodd Aaron Hill, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Polisi a Materion Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Mae gan gymdeithasau tai rôl hollbwysig wrth ddarparu gwasanaethau addasu tai ansawdd uchel ar gyfer miloedd o bobl bob blwyddyn.
"Sylweddolwn fod cynllunio ar gyfer poblogaeth sy'n newid yn her, ond rydym yn ymroddedig i sicrhau fod cartref da yn hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru. Mae ein prosiect Gorwelion Tai, sy'n canolbwyntio ar gynllunio ar gyfer y dyfodol, wedi'n galluogi i ddynodi rhwystrau fel y gallwn liniaru problemau yn gynnar. Bydd yr wybodaeth hon yn ein helpu i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau cartrefi a gwasanaethau ansawdd uchel sy'n gweddu anghenion ein poblogaeth yn y dyfodol.
"Rydym eisoes wedi ymroi gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r system addasiadau newydd, Galluogi, sy'n gweithio i fynd i'r afael â llawer o'r problemau a amlygwyd yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Rydym hefyd yn galw am adolygiad o bolisi tai yng Nghymru fydd yn rhoi cyfle i ystyried sut y gallwn wella'r system bresennol, yn cynnwys edrych ar wahanol fodelau a chynyddu cydweithio ar draws sectorau."