Jump to content

13 Awst 2018

Ydych chi'n defnyddio llaw chwith? Dyma rhestr o bobl enwog sydd hefyd

Ydych chi'n defnyddio llaw chwith? Dyma rhestr o bobl enwog sydd hefyd
Mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Llaw Chwith – y diwrnod pan gaiff pawb sy’n ysgrifennu gyda’u llaw chwith gyfle i ddathlu bod yn rhan o grŵp sy’n cynnwys tua 12% o’r boblogaeth.


Mae llawer o ffeithiau rhyfedd a rhyfeddol am bobl llaw chwith – o’r ffaith eu bod yn ôl pob sôn yn well am aml-dasgio I’r ffaith fod pump o arlywyddion diweddar yr Unol Daleithiau wedi bod yn bobl llaw chwith!


Ond gall fod yn berson llaw chwith hefyd achosi problemau – o ddefnyddio siswrn i smwtsio gwaith wrth ysgrifennu traethawd, felly yn sicr nid yw popeth yn rhwydd.


Yn ffodus, gyda’n cyrsiau hyfforddiant ar-lein, nid yw o bwys os ydych yn berson llaw chwith neu law dde – oherwydd caiff y cyfan ei wneud ar fysellfwrdd, o gysur eich cartref eich hun ar ba bynnag adeg sy’n addas i chi.


Mae gennym nifer o gyrsiau ar ein llwyfan hyfforddiant ar-lein, i gyd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer sector tai Cymru.


Mae’r cyrsiau newydd yn cynnwys Deddf Diwygio Llesiant a Gwaith 2016, Materion Tai Cymdeithasol Cyfredol a Tai Cymdeithasol: pwy ydyn ni’n feddwl ydyn ni? Mwy o wybodaeth yma


Ydych chi’n berson llaw chwith? Os felly, rydych mewn cwmni da. Dyma 10 o bobl llaw chwith dylanwadol iawn:
  1. Barack Obama: Mae’r cyn Arlywydd yn falch i fod yn berson llaw chwith ac mae ymhell o fod ar ben ei hun – bu pump o’r saith arlywydd diwethaf yn bobl llaw chwith yn cynnwys Bill Clinton, George HW Bush a Ronald Reagan.

  2. Y Tywysog William: Fel ei dad y Tywysog Charles, mae’n well gan y Tywysog ddefnyddio’i law chwith.

  3. Syr Paul McCartney: Ymddengys fod pobl llaw chwith yn greadigol iawn. A gadewch i ni fod yn onest, mae wedi ysgrifennu llawer o ganeuon godidog.

  4. Angelina Jolie: Mae wedi ysgrifennu llawer o lofnodion fel seren Hollywood – a bob amser gyda’I llaw chwith.

  5. Tom Cruise: Ydych chi wedi’i weld yn Mission Impossible? Mae’r gwn fel arfer yn ei law chwith.

  6. Justin Bieber: Mae’n canu’r gitâr ac yn ysgrifennu gyda’i law chwith ond yn defnyddio’i law dde ar gyfer chwaraeon. Rhy glyfar o’r hanner.

  7. Oprah Winfrey: Brenhines y sioeau sgwrsio ac yn ymddangos yn rheolaidd ar y carped coch a phan mae’n codi ei llaw ar y camera – gyda’I llaw chwith mae’n gwneud hynny.

  8. Bill Gates: Mae sefydlydd Microsoft yn un o’r dynion mwyaf llwyddiannus a dylanwadol ar y blaned – felly yn sicr nid yw bod yn berson llaw chwith wedi’i lesteirio

  9. Pele: Fe sgoriodd y pel-droediwr byd-enwog o Brasil goliau rhyfeddol gyda’i droed chwith, ond defnyddio’i law chwith a wnaiff i ysgrifennu.

  10. Leonardo da Vinci: Roedd yr arlunydd gymaint o berson llaw chwith fel yr arferai ysgrifennu o’r dde I’r chwith! Mae rhai haneswyr wedi awgrymu fod y ffaith fod da Vinci yn berson llaw chwith wedi ychwanegu at ei athrylith, oherwydd iddo ei orfodi i feddwl a gweld mewn ffordd anghyffredin.


I archebu lle ar ein cyrsiau hyfforddiant ar-lein, ewch i: https://chcymru.org.uk/cy/forthcoming-training/online-training/ /