Jump to content

29 Medi 2016

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ailddosbarthu cymdeithasau tai yng Nghymru

Mae targed Llywodraeth Cymru o adeiladu 20,000 o gartrefi newydd erbyn 2021 dan fygythiad yn dilyn penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) i ailddosbarthu cymdeithasau tai yng Nghymru.

Dywed Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) sy'n cynrychioli cymdeithasau tai Cymru fod angen i Weinidogion gymryd camau pendant a rhoi deddfwriaeth yn ei lle i wrthdroi penderfyniad heddiw. Mae cymdeithasau tai yn sefydliadau annibynnol. Fodd bynnag mae'r ONS wedi eu hailddosbarthu fel cyrff sector preifat oherwydd lefel yr ymgyfraniad gwladol yn y ffordd y gweithredant. Daw'r penderfyniad, sydd hefyd yn effeithio ar yr Alban a Gogledd Iwerddon, flwyddyn ar ôl i'r ONS newid dosbarthiad cymdeithasau tai Lloegr.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC, fod y sector yn bryderus iawn am effaith penderfyniad yr ONS. Ychwanegodd: "Efallai y bydd hyn yn ymddangos i lawer o bobl fel newid cyfrifeg yn unig ond y gwirionedd yw y gallai gael canlyniadau difrifol i gymdeithasau tai a miloedd o deuluoedd ar restri aros am dai sydd ag angen dybryd am rywle i fyw."

Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar gymdeithasau tai i helpu cyflawni ei tharged uchelgeisiol o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Gallai rheoliad yr ONS effeithio ar eu gallu i fenthyca arian ar gyfer cynlluniau'r dyfodol tra ychwanegir eu dyled gyfun o £2.5 biliwn at y cyfrifon cenedlaethol.

Gallai hefyd arwain at i Drysorlys y Deyrnas Unedig fedru rheoli benthyca preifat cymdeithasau tai, sy'n cefnogi eu gwaith yn adeiladu cartrefi newydd yng Nghymru. Byddai hyn hefyd yn gostwng gallu Llywodraeth Cymru i benderfynu ar bolisi tai, sydd wedi ei ddatganoli i Gymru.

Mae CHC a'i aelodau yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn arweiniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig drwy gymryd camau ar unwaith i wrthdroi'r penderfyniad. Gellid cynnwys mesurau yn y ddeddfwriaeth arfaethedig i ddod â'r cynllun hawl i brynu i ben yng Nghymru.

Dywedodd Stuart Ropke: "Mae ein haelodau yn darparu bron 160,000 o gartrefi i bobl Cymru ac yn cyflogi mwy na 8,800 o bobl. Y llynedd yn unig fe wnaethom gyfrannu mwy na £2 biliwn i economi Cymru.

Gellid dadlau mai cymdeithasau tai, sydd tan heddiw wedi gweithredu fel busnesau annibynnol, yw'r partneriaethau mwyaf llwyddiannus rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn y Deyrnas Unedig. Maent yn rhannu uchelgais Llywodraeth Cymru o adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy dros dymor presennol y Cynulliad. Fodd bynnag, ni allwn orbwysleisio her penderfyniad heddiw i gyflawni hyn. Os ydym i barhau i adeiladu cartrefi ar gyfer pobl Cymru rydym angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru a gwleidyddion y gwrthbleidiau i wrthdroi penderfyniad yr ONS cyn gynted ag sydd modd."

Darllenwch bapur gwybodaeth CHC ar benderfyniad yr ONS ar ailddosbarthu yma