Jump to content

03 Medi 2018

Cwrdd â'r Siaradwr - Trevor Williams

Cwrdd â'r Siaradwr - Trevor Williams
Am fwy na 10 mlynedd bu Trevor Williams yn Brif Economegydd Bancio Masnachol Banc Lloyds. Ym mis Tachwedd bydd yn ymuno â ni yn ein Cynhadledd Flynyddol i roi ei farn ar Brexit.


Yn ystod ei gyfnod gyda Bancio Masnachol Lloyds, sefydlodd Trevor dîm blaenllaw o economegwyr yn dadansoddi data byd-eang a domestig i gleientiaid felly mae mewn sefyllfa dda i fod â ffocws ar beth fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth yn ei olygu i economi y Deyrnas Unedig.


Cawsom sgwrs gyda Trevor i gael rhagolwg ar beth sydd i ddod yn ei sgwrs yn ein Cynhadledd Flynyddol.


Crynhowch eich sgwrs mewn un frawddeg
Byddaf yn edrych beth mae Brexit yn ei olygu i wahanol sectorau a Chymru ond rwyf hefyd yn meddwl fod gan y Deyrnas Unedig faterion, heriau a chyfleoedd eraill o'u blaenau. Mae tai, a thai cymdeithasol yn arbennig, yn un o'r pwysicaf.


Rydych yn dweud ein bod ar y llwybr i adael yr Undeb Ewropeaidd ond beth yw eich barn chi am beth fyddai Brexit heb gytundeb yn ei olygu i'r Deyrnas Unedig?
Pe byddai'r Deyrnas Unedig yn mynd i Brexit heb gytundeb ym mis Mawrth, byddem yn mynd yn ôl i reolau Sefydliad Masnach y Byd, gan arwain at ymyriad tymor byr i fasnach, yn cynnwys trefniadau cilyddol ar gyfer meddyginiaeth a'r gyfraith ymhlith pethau eraill. Mae'n sefyllfa achos gwaethaf ac yn un y credaf y dylid ei hosgoi.*


Beth ydych chi'n ei wybod am dai cymdeithasol?
Ar ôl cael fy magu mewn fflat cyngor, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw tai cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig a'i rôl mewn meithrin cymunedau.


Beth ydych chi'n mwynhau ei wneud tu allan i'r gwaith?
Rwy'n mwynhau darllen a chwaraeon ond hefyd yn hoff iawn i ballet, ac yn gadeirydd Ballet Black, cwmni sy'n anelu i ddod â ballet i gynulleidfa fwy amrywiol yn ddiwylliannol.





*Nodyn y Golygydd: i ddarllen barn Georgina Shackell Green ar Brexit, cliciwch yma


Archebwch eich tocyn am y Cynhadledd Flynyddol yma