Y rheswm £4.9bn i gefnogi tai cymdeithasol
Yn ddiweddar, fe wnaethom lansio ein hymchwil i effaith economaidd-gymdeithasol cymdeithasau tai Cymru, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Savills.. Mae’r canfyddiadau yn amlwg iawn – mae cymdeithasau tai yn cael argraff enfawr ar fywydau pobl.
Ychydig o bethau sy’n fwy sylfaenol na chartref diogel, saff a da. Eto, mae’r argyfwng tai yn golygu fod gormod o bobl yn dal i fyw mewn cartrefi anaddas neu anfforddiadwy. Mae cymdeithasau tai, fel sefydliadau nid-er-elw gyda’u gwreiddiau yn eu cymunedau, yn bartneriaid hanfodol i roi diwedd ar yr argyfwng yma.
Mae’r dystiolaeth yn glir: Nid dim ond brics a morter mae cymdeithasau tai yn ei gyflenwi – maent yn creu buddion economaidd-cymdeithasol trawsnewidiol ac mae buddsoddi mewn tai yn fuddsoddiad yng Nghymru.
Byddai effaith damcaniaethol cymdeithasau tai yn adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd dros dymor nesaf pedair blynedd Senedd Cymru yn cynhyrchu cyfanswm budd cyfunol dros 30 mlynedd a fyddai’n newid bywydau a hybu’r economi mewn modd sylfaenol.
- £4.9 biliwn (gwerth presennol net) mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) i economi Cymru drwy adeiladu a gweithredu.
- £3.6 biliwn (gwerth presennol net) mewn effaith gadarnhaol ar bobl a chymunedau.
- £2.1 biliwn (gwerth presennol net) mewn arbedion ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Mae’r buddsoddiad yn rhoi enillion hirdymor ac ar unwaith:
- Gweithlu o filoedd. Byddai gwaith adeiladu yn cefnogi cyfanswm gweithlu o 14,200 o bobl y flwyddyn. Yn yr hirdymor, byddai 2,690 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn cael eu cefnogi bob blwyddyn drwy reoli’r cartrefi hyn.
- Diogelu’r pwrs cyhoeddus: Dros gyfnod gweithredu o 30 mlynedd, byddai gwasanaethau cyhoeddus yn arbed £1.8 biliwn, gyda’r un arbediad mwyaf yn £1.1 biliwn o symud 3,900 o aelwydydd allan o lety dros dro drud.
- Buddion i denantiaid: Yn y tymor hirach, byddai tenantiaid a chymunedau yn cael budd o £2.8 biliwn, yn cynnwys £1.3 biliwn yn uniongyrchol i denantiaid drwy renti cymdeithasol rhatach o gymharu â daliadaethau eraill.
Yn hollbwysig, dengys yr ymchwil nad yw cymdeithasau tai yn dechrau arni o’r dechrau - maent wedi ennill eu plwyf fel partneriaid cyflenwi gyda hanes cryf o lwyddiant ac yn barod i roi diwedd ar argyfwng tai. Yn 24/25 fe wnaethant:
- Gwario amcangyfrif o £1.4bn yng Nghymru, cyfwerth â 85c ym mhob £1
- Cefnogi amcangyfrif o 37,040 o swyddi llawn-amser uniongyrchol ac anuniongyrchol
- Gwario amcangyfrif o £28m ar adfywio cymunedol a chynnal tenantiaethau
- Cyflenwi 75% o’r holl dai fforddiadwy ychwanegol (1).
(1) StatsCymru, Darpariaeth Tai Fforddiadwy Ychwanegol yn ôl darparydd a blwyddyn, 2024
Dengys yr ymchwil fod cymdeithasau tai yn gwneud llawer mwy na darparu tai yn unig, maent yn sbardun i drawsnewid yng Nghymru. Gwelir hyn orau drwy’r straeon llwyddiant unigol a chynlluniau cymunedol ar y cyd sy’n dangos sut mae cartref â sicrwydd yn sylfaen ar gyfer cyflawni lles personol a chymunedol.
Cenhadaeth greiddiol cymdeithasau tai yw darparu cartrefi diogel a saff, sy’n sylfaenol ar gyfer twf a chynnydd. Fodd bynnag, mae’r effaith gadarnhaol yn aml yn ymestyn i feysydd hollbwysig fel addysg, cyflogaeth a iechyd meddwl.
Grymuso
Mae Dafydd yn aelod o dîm ymgysylltu â phreswylwyr Hedyn ac fe helpodd breswylydd oedd yn benderfynol i ailadeiladu ei fywyd drwy ei helpu i gael mynediad y gyllid ar gyfer cwrs cyfrifeg. Dywedodd y preswylydd: "Fe wnaeth Daf arbed fy mywyd, fyddwn i ddim wedi gallu fforddio’r cwrs hwn hebddo ef a Hedyn".
Sefydlogrwydd
Cafodd Olivia*, oedd yn ddigartref, fflat gan Gorwel (gwasanaeth cymorth Grŵp Cynefin). Gyda cefnogaeth, mae bellach wedi sefyll arholiadau Lefel A, yn dysgu gyrru car ac yn bwriadu mynd i brifysgol. Dywedodd Olivia “fyddwn i’n bendant heb gyrraedd lle rydw i nawr” heb y sefydlogrwydd a’r help a gafodd.
Adfywio
Sylwodd Trivallis ar fwlch sgiliau a fyddai wedi atal preswylwyr lleol rhag cael mynediad i swyddi adeiladu a ddaw yn sgil adfywio Penrhys. I fynd i’r afael â hyn, buont yn gweithio gyda Bluewater Recruitment, Cymunedau am Waith+ ac Arco Training i gyflenwi hyfforddiant gydag achrediad a chymorth cyflogaeth. Fel canlyniad, mae 11 o breswylwyr wedi cael cardiau CSCS, yn golygu eu bod yn barod am swydd cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau. Mae’r dull gweithredu rhagweithiol yma yn sicrhau y bydd arian a fuddsoddir yn adfywio Penrhys yn aros yn y gymuned, gyda phobl leol yn cael budd o’r cyfleoedd a gaiff eu creu.
Cydweithio
Mae gan Hedyn ran hanfodol mewn cyflenwi prosiect adfywio graddfa fawr yng Nghasnewydd. Cafodd Hedyn ei ffurfio pan unwyd Cartrefi Dinas Casnewydd a Cartrefi Melin ac mae’n arwain trawsnewidiad £47m yn yr ardal. Bydd y datblygiad blaenllaw yn darparu 158 o gartrefi newydd ac yn symud canolfan siopa Ringland i integreiddio gyda Chanolfan Iechyd a Llesiant 19 Hills – canolfan GIG newydd gyda dros 20 o wasanaethau ar gael yn cynnwys gwasanaethau meddyg teulu, gofal sylfaenol iechyd meddwl, deintyddiaeth, ffisiotherapi paediatreg a chlinigau gwasanaethau cymunedol. Mae’r cynllun hwn ar y cyd i adfywio Ringland yn helpu i greu hyb cymunedol sy’n gweithio i bobl leol.
Wrth i ni edych i’r dyfodol, mae’n rhaid i ymroddiad dewr gyda ffocws ar ddatrysiad i sicrhau mwy o gartrefi, cartrefi well a lleoedd iachach a thecach fod yn greiddiol i gynllun unrhyw lywodraeth ar gyfer Cymru.
Cartrefi – ar gyfer pob dyfodol